Mae deiseb sy’n galw am ddileu’r teitl Tywysog Cymru wedi denu dros 18,000 o lofnodion erbyn hyn.

Daw’r ddeiseb yn dilyn cyhoeddiad y brenin newydd, Charles III, mai ei fab William yw Tywysog Cymru erbyn hyn, yn dilyn marwolaeth y Frenhines Elizabeth II.

Mae’r ddeiseb yn nodi arwyddocâd hanesyddol y teitl yng Nghymru, gan nodi mai Llywelyn oedd gwir dywysog olaf Cymru, a hwnnw wedi’i ladd yng Nghilmeri yn 1282 cyn i’w ben gael ei gludo i Dŵr Llundain, ac mae’n cyfeirio at erchyllterau yn erbyn ei frawd Dafydd a’u teuluoedd.

“Ond digwyddodd hyn ganrifoedd yn ôl, meddech chi,” yn ôl y ddeiseb.

“Y gwir amdani yw, ers dyddiau Llywelyn ein Llyw Olaf a’r ‘rebel’ o Dywysog Cymru Owain Glyndŵr, mae’r teitl wedi’i ddal yn ecsgliwsif gan Saeson fel symbol o oruchafiaeth dros Gymru.

“Hyd heddiw, does gan ‘Dywysogion Cymru’ Seisnig ddim cysylltiad gwirioneddol â Chymru.”

Dywed fod y teitl yn “sarhad” i Gymru ac yn “symbol o ormes hanesyddol”, yn ogystal ag “awgrymu bod Cymru’n dal i fod yn Dywysogaeth, gan danseilio statws Cymru fel cenedl ac fel gwlad”.

“Yn ogystal, does gan y teitl ddim rôl gyfansoddiadol i Gymru, sydd bellach yn wlad ddatganoledig â Senedd genedlaethol,” meddai.

Cannoedd yn arwyddo deiseb yn galw am ddod â theitl ‘Tywysog Cymru’ i ben

“Mae’r teitl yn sarhad ar Gymru ac mae’n symbol o ormes hanesyddol”