Mae Tony Paris, un o’r tri dyn a gafwyd yn euog ar gam o lofruddio Lynette White o Gaerdydd yn 1988, wedi marw’n 65 oed.

Cafodd Tony Paris, Yusef Abdullahi a Stephen Miller, gafodd eu hadnabod fel y “Cardiff Three”, eu carcharu yn 1990 ond cafodd y ddedfryd ei gwyrdroi gan y Llys Apêl.

Daw ei farwolaeth ddeng mlynedd ar ôl i Syr Anthony Burden, Prif Gwnstabl Heddlu’r De ar y pryd, ymddiheuro’n ffurfiol wrth y tri.

Ddoe (dydd Sul, Medi 11), cadarnhaodd Cassie, ei ferch, ei fod wedi marw gan ddweud y byddai’n parhau i godi ymwybyddiaeth ac ymladd dros y rhai sy’n wynebu anghyfiawnder.

Cefndir yr achos

Llofruddiaeth Lynette White yw un o’r achosion mwyaf amlwg a dadleuol yn hanes Heddlu’r De.

Cafodd y ddynes 20 oed ei chanfod wedi’i llofruddio yn ei fflat yng Nghaerdydd ar Ddydd San Ffolant 1988.

Cyhoeddodd Heddlu’r De lun ffotoffit o ddyn gwyn â gwaed arno a gafodd ei weld yn y cyffiniau ar adeg y llofruddiaeth, ond doedden nhw ddim yn gallu dod o hyd i’r dyn.

Cafodd Stephen Miller, cariad Lynette White, ei holi y diwrnod canlynol, ond ar ôl rhoi datganiad yn manylu ar ei leoliad yn ystod y digwyddiad, cafodd ei ryddhau’n ddigyhuddiad a chyhoeddodd yr heddlu nad oedd e bellach dan amheuaeth fel rhan o’u hymchwiliad.

Ond cafodd ei arestio eto a thros gyfnod o bedwar diwrnod, cafodd ei gyfweld ar 19 achlysur am gyfanswm o 13 awr.

Gwrthododd yr heddlu roi mynediad iddo at gyfreithiwr ar gyfer y ddau gyfweliad cyntaf.

Fe wnaeth Stephen Miller, oedd ag oedran meddyliol o 11 – er ei fod yn 22 oed – gyfaddef i’r trosedd ar ôl gwadu 307 o weithiau.

Roedd yntau hefyd yn cysylltu Tony Paris a Yusef Abdullahi â’r llofruddiaeth.

Arweiniodd ail ymchwiliad at yr achos llys llygredd heddlu mwyaf erioed yn y Deyrnas Unedig.

Cafwyd wyth o gyn-dditectifs Heddlu’r De yn ddieuog pan ddaeth yr achos i ben hanner ffordd drwodd.

Enillodd yr ymgyrch gan gymuned Tre-biwt i ryddhau’r dynion gydnabyddiaeth ryngwladol.

Ddwy flynedd ar ôl i’r tri gael eu dedfrydu, dyfarnodd y Llys Apêl fod camweinyddu cyfiawnder difrifol wedi digwydd.

Cafodd y tri eu rhyddhau yn 1992, ond collodd Tony Paris ei dad ychydig wythnosau cyn hynny.

Teyrngedau ar Twitter

Mae llawer o deyrngedau i Tony Paris ar Twitter ers neithiwr.

“Alla i ddim credu fy mod yn ysgrifennu hwn… yn anffodus mae fy nhad Anthony (Tony) Paris wedi pasio,” meddai ei ferch Cassie.

“Mae unrhyw un sy’n fy adnabod yn gwybod bod fy nhad yn BOPETH i mi.

“Fi a fo oedd yn erbyn y byd.

“Byddaf yn parhau i godi ymwybyddiaeth, ac i ymladd dros y rhai sy’n wynebu anghyfiawnder yn ei enw.

“Dwi’n caru ti dada!”

“Trist iawn clywed am farwolaeth Tony Paris,” meddai Vaughan Gething, Ysgrifennydd Economi Cymru.

“Cafodd effaith enfawr ar Dre-biwt a’r Dociau, ac mae ei frwydr dros gyfiawnder ochr yn ochr â gweddill y Cardiff 5, ei deulu, a’r gymuned wedi helpu i siapio bywyd yng Nghaerdydd er gwell.

“Mae fy meddyliau gyda’i deulu heddiw.”

Mae Tony Paris yn gadael dwy ferch a dau fab ar ei ôl.