Ifan Morgan Jones
Gyda blwyddyn arall bron a bod ar ben, mae Golwg360 wedi bod yn cael cip nôl ar beth oedd y blogiau mwyaf poblogaidd ar y wefan eleni ymysg ein darllenwyr.

Roedd gwleidyddiaeth yn bwnc amlwg, gyda’r etholiad cyffredinol a Cheredigion yn enwedig yn dod o dan y chwyddwydr ar sawl achlysur.

Cafodd yr iaith a diwylliant hefyd rywfaint o sylw – a phwy all anghofio’r cyffro o gwmpas ymgais lwyddiannus Cymru i gyrraedd Ewro 2016?

Heb oedi ymhellach, dyma’r Deg Uchaf – gallwch hefyd weld ein Deg Uchaf o straeon Celfyddydau a Rhyngwladol eleni, ac fe fyddwn ni’n datgelu’r Deg Uchaf cyffredinol cyn diwedd y flwyddyn.

1.A fydd Plaid Cymru’n cipio Ceredigion?

Wrth i’r etholiad cyffredinol agosáu, Ifan Morgan Jones fu’n bwrw golwg dros etholaeth Ceredigion a gobeithion Plaid Cymru o gipio’r sedd oddi ar y Democratiaid Rhyddfrydol.

Amau a fyddai Plaid yn gwneud cweit digon i ddiddymu mwyafrif Mark Williams oedd y blogiwr, a hynny er i’r darn gael ei hysgrifennu cyn helyntion Mike Parker a Huw Thomas am eu sylwadau yn y gorffennol.

Roedd yn llygad ei le, gyda’r Democrat Rhyddfrydol yn llwyddo i ddal ei afael ar y sedd o 3,000 o bleidleisiau.

Ac roedd hi’n amlwg bod canlyniadau’r etholiad wedi bod yn hynod o brysur i Golwg360 hefyd, wrth i Flog Byw y noson honno gyrraedd deg uchaf y straeon cyffredinol.

2.Cymry di-Gymraeg yn teimlo fel estroniaid

Roedd y blog hwn gan Lydia Ellis, myfyrwraig o Brifysgol Caerdydd sydd yn wreiddiol o Gricieth, yn sicr yn un o’r rhai wnaeth i’r Cymry drafod a dadlau eleni.

Fe bostiodd hi neges hir ar ei thudalen Facebook yn dweud ei bod hi’n teimlo fel bod rhai Cymry di-Gymraeg roedd hi’n eu hadnabod yn teimlo fel estroniaid yn eu gwlad eu hunain, gan geisio annog y Cymry Cymraeg i fod yn fwy croesawgar ac agored tuag atynt.

Esgorodd hyn ar dipyn o ffraeo a dadlau, gyda rhai’n cefnogi ei sylwadau ac eraill yn eu herio, ac roedd y blog hwn yn ymateb i’r holl sylwadau roedd hi wedi ei dderbyn yn sgil y neges wreiddiol.

3.Problemau Plaid yng Ngheredigion

Dychwelyd i’r etholiad cyffredinol a Cheredigion ydyn ni ar gyfer y trydydd blog ar y rhestr, wrth i Ifan Morgan Jones gynnig post-mortem ar fethiant Plaid Cymru i gipio’r sedd.

A dweud y gwir, cwympo (o ychydig iawn) wnaeth pleidlais Plaid yn yr etholiad, ac fe awgrymodd Ifan Morgan Jones y gallan nhw orfod sefyll yr un ymgeisydd cryf sawl gwaith os oedden nhw am adennill y sedd.

4.Hunan-gasineb cenedl dan sawdl

Os oedd blog Lydia Ellis am y di-Gymraeg yn un o’r rhai gafodd ei darllen fwyaf eleni, doedd yr ymateb hwn gan Morgan Owen ddim yn bell ar ei hôl.

Anghytuno’n llwyr â dadl Lydia Ellis wnaeth Morgan Owen, sydd hefyd yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd, gan ddweud nad oedd hi’n gul o gwbl i bwysleisio’r iaith Gymraeg, y prif beth sy’n gwahaniaethu’r Cymry oddi wrth Brydeinwyr.

5.Y dadleuon teledu – sut wnaeth Leanne Wood?

Nôl a ‘mlaen awn ni eto, gan ddychwelyd at yr etholiad cyffredinol wrth i Ifan Morgan Jones daro golwg dros un o’r digwyddiadau mwyaf diddorol, a pherfformiad Leanne Wood yn y dadleuon teledu.

Canolbwyntio ar Gymru (a’r Rhondda yn enwedig!) wnaeth Leanne Wood yn y ddadl gyntaf, a hynny’n ddealladwy, ond fe awgrymodd y blogiwr na fyddan nhw’n cael rhyw lawer o effaith ar gefnogaeth Plaid Cymru yn y tymor hir.

6.Maes-Ble? Trafod y ‘Steddfod yn y ddinas

At yr Eisteddfod y tro hwn, ac ymateb i’r awgrym bod y Brifwyl yn ystyried gwneud heb faes traddodiadol ar gyfer ymweliad â Chaerdydd yn 2018, a chynnal digwyddiadau mewn amryw leoliadau ar draws y brifddinas.

Amau oedd Ifan Morgan Jones a fyddai arbrawf o’r fath yn gweithio, gan ddadlau mai pwrpas yr ŵyl oedd bod yn rywle lle gallai’r holl Gymry Cymraeg ymgynnull mewn un man a chael eu hamgylchynu’n llwyr gan yr iaith am wythnos.

7.Fflash mob – ‘Am funud, stopiodd Efrog Newydd i wrando arnom’

Ym mis Tachwedd fe gymrodd disgyblion ysgol o Gymru ran mewn ‘fflash mob’ arbennig yn Times Square, Efrog Newydd, wrth iddyn nhw ganu Hen Wlad Fy Nhadau yn ddirybudd i’r torfeydd yno.

Roedd disgyblion o Ysgol Bro Myrddin yn rhan o’r digwyddiad, ac fe fu eu hathro Garmon Dyfri yn rhannu eu profiadau o’r achlysur hwnnw a gweddill eu hymweliad â’r UDA yn y blog hwn.

8.Blog Byw – Cyprus v Cymru

Wrth i Gymru agosáu at gyrraedd Ewro 2016 roedd sylw pawb ar y gêm bwysig oddi cartref yng Nghyprus ym mis Medi.

Owain Schiavone oedd wrth y llyw ar y Blog Byw wrth i Gareth Bale gipio’r pwyntiau gyda pheniad hwyr.

Roedd y blog byw o gêm olaf yr ymgyrch rhwng Cymru ac Andorra, gyda lle’r tîm yn Ffrainc eisoes yn saff, hefyd yn un poblogaidd wrth i Iolo Cheung arwain y darllenwyr drwy’r gêm a’r dathliadau.

9.Mike Parker a ‘Nazis’ Ceredigion

Nôl a ni i Geredigion, gydag Ifan Morgan Jones yn ymateb y tro hwn i bennawd dadleuol y Cambrian News am ymgeisydd Plaid Cymru Mike Parker.

Amau oedd y blogiwr bod un o’i wrthwynebwyr gwleidyddol wedi aros yn fwriadol tan wythnosau olaf yr etholiad i geisio pardduo enw’r ymgeisydd, ond fe gwestiynodd hefyd ymateb Plaid a Mike Parker ei hun i’r ffrae.

10.Ethol Corbyn – dechrau oes aur i ddatganoli?

Cyfaddefodd Ifan Morgan Jones yn y blog hwn nad oedd yn siŵr eto beth oedd barn Jeremy Corbyn ar fwy o ddatganoli i Gymru.

Ond roedd un peth oedd yn ei daro – gyda’r disgwyl y bydd y Cynulliad yn derbyn mwy o rymoedd dros y blynyddoedd nesaf, a’r perygl na fydd Llafur yn llywodraethu yn San Steffan am o leiaf degawd arall, a welwn ni dalent gorau’r blaid yn edrych tuag at Fae Caerdydd?