Safle'r ymosodiadau brawychol ym Mharis
Mae degfed person wedi cael eu harestio mewn cysylltiad â’r ymosodiadau ym Mharis ac mae chwech o bobl eraill yn cael eu holi ynglŷn â chynllwyn honedig i gynnal ymosodiadau ym Mrwsel Nos Galan, meddai’r awdurdodau yng Ngwlad Belg.
Dywedodd yr awdurdodau bod dyn o Wlad Belg, sy’n cael ei adnabod fel Ayoub B, wedi cael ei gyhuddo o lofruddiaeth brawychol ac o gymryd rhan mewn gweithredodd grŵp brawychol am ei gysylltiad honedig a’r ymosodiadau ym Mharis ar 13 Tachwedd.
Mae’r Wladwriaeth Islamaidd (IS) wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiadau ym Mharis pan gafodd 130 o bobl eu lladd a channoedd o rai eraill eu hanafu.
Cafodd Ayoub B ei arestio ddydd Mercher yn dilyn archwiliadau yn ardal Molenbeek ym Mrwsel, lle’r oedd rhai o ymosodwyr Paris yn byw, gan gynnwys y dyn sy’n cael ei amau o drefnu’r ymosodiadau Abdelhamid Abaaoud.
Mae naw o bobl yng Ngwlad Belg bellach wedi cael eu harestio mewn cysylltiad â’r ymosodiadau.
Dywedodd swyddfa’r erlynydd bod chwech o bobl wedi cael eu cludo i orsafoedd yr heddlu er mwyn cael eu holi a bod saith archwiliad wedi cael eu cynnal bore ma mewn nifer o leoliadau ym Mrwsel mewn cysylltiad â chynllwyn honedig i gynnal ymosodiadau yn ystod dathliadau’r flwyddyn newydd.
Cafodd dau ddyn eu harestio yn gynharach yn yr wythnos mewn cysylltiad â’r cynllwyn honedig.
Mae’r awdurdodau ym Mrwsel eisoes wedi canslo arddangosfeydd tân gwyllt i ddathlu Nos Galan oherwydd pryderon am ymosodiadau brawychol.