Fe fydd gyrwyr trenau gyda chwmni Arriva Cymru yn parhau gyda’u streic yn y flwyddyn newydd ar ôl iddyn nhw fethu a datrys anghydfod ynglŷn â thâl  ac amodau.

Dywedodd Aslef y bydd aelodau’r undeb yn mynd ar streic ar 4 Ionawr, y diwrnod cyntaf yn ôl yn y gwaith i nifer o weithwyr wedi gwyliau’r Nadolig.

Ychwanegodd yr undeb bod gwaharddiad ar weithiau oriau ychwanegol eisoes yn cael effaith gan honni bod nifer o gwmnïau trenau yn dibynnu ar weithwyr i weithio mwy o oriau.

‘Dim cynnig newydd’

Mae’r undeb wedi wfftio honiadau Trenau Arriva Cymru bod cynnig newydd wedi cael ei wneud.

Dywed Aslef eu bod yn fodlon trafod ond nad oedd unrhyw beth i’w drafod ar hyn o bryd.

Yn ôl Arriva mae disgwyl i’w holl wasanaethau gael eu canslo ar 4 Ionawr oherwydd y streic.

Fe allai rhai gwasanaethau yn gynnar yn y bore ar 5 Ionawr hefyd gael eu heffeithio.

‘Hynod siomedig’

Dywedodd llefarydd ar ran Trenau Arriva Cymru, Gareth Thomas: “Rydym yn hynod o siomedig nad yw undeb y gyrwyr trenau wedi derbyn ein cynnig diweddaraf o welliannau i’w amodau a chyflogau, a’u bod wedi penderfynu gweithredu’n ddiwydiannol, er ein bod ni wedi gwneud cynnig diwygiedig iddyn nhw ar 23 Rhagfyr yn dilyn trafodaethau cyn y Nadolig.”

Ychwanegodd bod cyfarwyddwyr y cwmni wedi bod mewn cysylltiad gyda swyddogion yr undeb bron bob dydd er mwyn ceisio datrys yr anghydfod.