Y llifogydd yn Nhalybont, ger Bangor Llun: Y Cynghorydd Dafydd Meurig
Mae’n “gywilyddus” ei bod wedi cymryd cyhyd i un o weinidogion Llywodraeth Cymru ymweld â phobl yng ngogledd Cymru sydd wedi cael eu heffeithio gan y llifogydd dros y Nadolig, yn ôl Aelod Cynulliad Plaid Cymru.

Roedd Alun Ffred Jones yn ymateb i ymweliad y Prif Weinidog Carwyn Jones a’r gogledd heddiw.

Dywedodd yr AC dros Arfon wrth Golwg360 ei fod yn “rhyfeddu” ei fod wedi cymryd cymaint o amser i unrhyw un o’r Llywodraeth roi sylw i’r problemau yn y gogledd a “bod neb wedi dod i weld sefyllfa pobl Talybont a Phontnewydd.”

Ychwanegodd nad oedd y Gweinidog Cyfoeth Naturiol Carl Sargeant “wedi trafferthu dod draw” a bod hyd yn oed cadeirydd yr Asiantaeth Amgylchedd Syr Philip Dilley “wedi llwyddo i gyrraedd gogledd Lloegr o Barbados yn gynt na gweinidogion Llywodraeth Cymru i ddod i’r gogledd.”

‘Gwarthus’

Roedd disgwyl i’r Prif Weinidog Carwyn Jones  ymweld â’r ardaloedd gafodd eu heffeithio waethaf  sef  Biwmares, pentref Talybont ger Bangor a Dyffryn Conwy heddiw.

Ond dywedodd y Cynghorydd lleol Dafydd Meurig wrth Golwg360 nad oedd Carwyn Jones wedi ymweld â Thalybont heddiw wedi’r cwbl.

“Roedd tua dwsin ohonon ni yn sefyll yn y glaw yn aros amdano ac wedyn gawson ni neges i ddweud nad oedd o’n dod. Nes i ei weld yn cael tynnu ei lun ar y bont dros yr A55 ond mae’n warthus nad oedd o hyd yn oed wedi dod draw i gyfarfod a’r bobl yma,” meddai.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru nad oedd y Prif Weinidog yn ymwybodol bod y grŵp yn aros i’w weld a’i fod yn ymddiheuro am y dryswch. Fe fydd yn ail-drefnu er mwyn dychwelyd i Dalybont i gwrdd â nhw wythnos nesaf, meddai.

‘Angen gweithredu’

Mae Alun Ffred Jones wedi dweud mai’r peth pwysicaf nawr yw bod y Llywodraeth yn gweithredu ar frys.

“Mi ddylai cynllun ar gyfer Talybont fod wedi digwydd 18 mis yn ôl ond dydy Llywodraeth Cymru ddim wedi ariannu’r cynllun. Maen nhw wedi llusgo traed a beth sydd angen gwneud rŵan ydy gweithredu. Dyna’r unig beth sy’n bwysig rŵan.”

Mae AC Plaid Cymru yn Ynys Mon Rhun ap Iorwerth wedi dweud y dylai’r Prif Weinidog gynnal uwch-gynhadledd frys gan ddod a’r awdurdodau lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru a swyddogion y llywodraeth ynghyd i drafod sut y gellir addasu i ymdopi’n well gyda digwyddiadau tywydd eithafol.

Meddai Rhun ap Iorwerth: “Dywed yr arbenigwyr wrthym y bydd tywydd garw yn dod yn fwy cyffredin yn y dyfodol, a dylai’r llywodraeth Lafur edrych ar gynlluniau a gynigiwyd i atal difrod o’r fath rhag digwydd yma ac mewn mannau eraill.

“Mae’n hanfodol i Lywodraeth Cymru fynd ati i weithio gyda Chyfoeth Naturiol Cymru i edrych ar bob ardal fregus yng Nghymru i asesu lle gall fod angen gwaith i atal llifogydd yn y dyfodol. Allwn ni ddim oedi gyda hyn.”