Simon Danczuk AS
Mae’r Aelod Seneddol Llafur Simon Danczuk wedi cael ei wahardd o’r blaid dros dro yn dilyn honiadau ei fod wedi anfon negeseuon testun at ferch 17 oed.
Mae corff llywodraethol y blaid yn ymchwilio i AS Rochdale yn dilyn honiadau ei fod wedi anfon negeseuon at Sophena Houlihan ar ôl iddi gysylltu gydag o ynglŷn â swydd.
Mae Simon Danczuk wedi dweud nad yw’r adroddiadau ym mhapur The Sun “yn hollol gywir” ond eu bod yn cyfeirio at “gyfnod isel iawn yn fy mywyd.”
Mae’r ferch, sydd bellach yn 18 oed, yn honni bod yr AS wedi anfon sawl neges ati gydag awgrymiadau rhywiol.
Mae Simon Danczuk wedi ymddiheuro’n “ddiamod” gan gyfaddef bod ei ymddygiad wedi bod yn “amhriodol.”
Mae bywyd personol yr AS 49 oed wedi cael sylw yn gyson dros y flwyddyn ddiwethaf ar ôl i’w briodas chwalu. Dywedodd yr AS bod ei ymgyrch i dynnu sylw at gam-drin plant yn rhywiol wedi achosi iddo ddioddef o iselder ac wedi arwain at y trafferthion yn ei briodas.
Cafodd berthynas yn ddiweddarach gyda’r cynghorydd Llafur Claire Hamilton ond dywedodd hi ar ei chyfrif Twitter bod y berthynas wedi dod i ben ar ôl y Nadolig.