Rhun ap Iorwerth
Mae Aelod Cynulliad Plaid Cymru wedi galw ar Carwyn Jones  i ddefnyddio ei ymweliad ag ardaloedd yng ngogledd Cymru, sydd wedi eu heffeithio  gan lifogydd, i wella amddiffynfeydd yn erbyn tywydd garw.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth y dylai’r Prif Weinidog gynnal uwch-gynhadledd frys yn sgil y difrod a achoswyd gan y llifogydd a achosodd ddifrod sylweddol dros y Nadolig.

Mae Carwyn Jones heddiw’n ymweld â’r ardaloedd gafodd eu heffeithio waethaf  sef y Biwmares, Talybont a Dyffryn Conwy.

Fe fydd yn defnyddio ei ymweliad ddiolch i aelodau’r gwasanaethau brys, staff Asiantaethau Cefnffyrdd a Chyfoeth Naturiol Cymru, gwirfoddolwyr a phobl leol am helpu cymunedau yn sgil y llifogydd dros gyfnod y Nadolig.

Bydd hefyd yn gweld y gwaith sy’n cael ei wneud ar ffyrdd lleol i geisio lleihau effaith y llifogydd ar fodurwyr, gan gynnwys ffordd ddeuol yr A55, a oedd ynghau ar Ŵyl San Steffan oherwydd llifogydd difrifol yn Llanfairfechan.

‘Hanfodol dysgu gwersi’ 

Dywedodd Rhun ap Iorwerth AC:  “Mae’r tywydd garw dros gyfnod y Nadolig wedi achosi anhawster enbyd i lawer o bobl ar hyd a lled y gogledd. Mae’n hanfodol fod yr holl asiantaethau yn dysgu gwersi fel ein bod yn edrych ar beth sydd angen ei wneud i atal y problemau rhag codi yn y dyfodol.

“Mae pentrefi megis Talybont, ger Bangor, yn ogystal â’r A55, wedi gorfod dioddef llifogydd difrifol ddwywaith yn ddiweddar.

“O’r diwedd, mae’r Prif Weinidog wedi teithio i’r ardaloedd sydd wedi dioddef, ond mae angen iddo wneud rhywbeth pendant i gryfhau ardaloedd o’r fath.”

Ychwanegodd y dylai Carwyn Jones ddechrau trwy gynnal uwch-gynhadledd frys, gan ddod a’r awdurdodau lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru a swyddogion y llywodraeth ynghyd i drafod sut y gellir addasu i ymdopi’n well gyda digwyddiadau tywydd eithafol.

‘Tywydd garw yn fwy cyffredin’

Meddai Rhun ap Iorwerth: “Dywed yr arbenigwyr wrthym y bydd tywydd garw yn dod yn fwy cyffredin yn y dyfodol, a dylai’r llywodraeth Lafur edrych ar gynlluniau a gynigiwyd i atal difrod o’r fath rhag digwydd yma ac mewn mannau eraill.

“Mae’n hanfodol i Lywodraeth Cymru fynd ati i weithio gyda Chyfoeth Naturiol Cymru i edrych ar bob ardal fregus yng Nghymru i asesu lle gall fod angen gwaith i atal llifogydd yn y dyfodol. Allwn ni ddim oedi gyda hyn.

“Mae effaith newid hinsawdd yn amlwg i bawb, a rhaid i ni weithio i leihau effaith hynny ar bobl Cymru.”