Mae pobl wedi cael eu symud o’u cartrefi a stryd wedi’i chau ym Maesteg ar ôl i dwll 20 troedfedd ymddangos mewn pafin.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Deras Coronation yn Nantyffyllon, Maesteg tua 8 y bore dydd Iau yn dilyn adroddiadau bod rhywun wedi syrthio i mewn i’r twll.
Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Tan ac Achub De Cymru bod dyn wedi cael ei achub o’r twll cyn iddyn nhw gyrraedd ac nid oedd yn rhaid iddo gael triniaeth yn yr ysbyty.
Mae Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr yn dweud eu bod nhw’n ceisio darganfod beth achosodd i’r twll ymddangos. Daw yn sgil glaw trwm yn ystod Storm Frank.
Ond mae gweithwyr hefyd yn ystyried y gallai hen waith mwyngloddio yn yr ardal fod yn gyfrifol.
Dywedodd arolygydd y priffyrdd wrth BBC Cymru bod trigolion tua chwech neu saith o fflatiau wedi cael eu symud o’u cartrefi a’u bod yn asesu’r sefyllfa i weld a yw’n ddiogel iddyn nhw ddychwelyd heno.