Mae cwmni Waze yn dweud y dylai cwsmeriaid fod yn gallu clywed llais Gareth yn rhoi cyfarwyddiadau yn Gymraeg iddyn nhw unwaith eto.
Fis diwethaf, roedd Gareth Jones o Bwllheli wedi mynegi siom nad oedd y llais Cymraeg bellach ar ap Waze, sy’n gweithredu fel satnav.
Mae Waze wedi bod yn darparu llais Cymraeg i yrwyr “ers blynyddoedd”, meddai Gareth Jones wrth golwg360 bryd hynny, a bod y llais wedi bod yn “arbennig o safonol”, ond ei fod e’n “siomedig” yn sgil ymateb a dderbyniodd gan y cwmni.
“Mae yn brawf cyhoeddus bod y Gymraeg yn fyw yn yr oes dechnolegol hon,” meddai am y teclyn.
“Yn sydyn, sylwais nad oedd ar gael.
“Anfonais ymholiad, a dyma’r neges a dderbyniais [yn Saesneg]: ‘Diolch am gysylltu â ni am y llais Cymraeg hyrwyddol. Rydym yma i helpu. Roedd y llais a’r hwyliau Cymraeg ar gael am gyfnod penodol fel rhan o hyrwyddiad arbennig’.
“Roeddwn yn hynod siomedig i dderbyn yr ymateb hwn. Cam mawr yn ôl.”
‘Problemau technegol’
Yn ôl Waze, problemau technegol oedd yn gyfrifol am ddiffyg llais Cymraeg.
“Mae’n ymddangos ein bod ni’n cael ychydig o drafferthion gydag ambell un o’n lleisiau ar hyn o bryd (gan gynnwys y Gymraeg),” meddai llefarydd wrth golwg360.
“Ond mae ein tîm yn gweithio ar y rhain, ac fe ddylen nhw fod yn gweithio’n fuan.”
Yn dilyn pryderon Gareth Jones, fe fu eraill yn galw am y llais Cymraeg drachefn.
Ddechrau’r mis hwn, ymddiheurodd y cwmni wrth gwsmer arall oedd wedi mynegi pryderon am y gwasanaeth Cymraeg.
“Rydyn ni’n ymddiheuro am yr anghyfleustra y gallai hyn fod wedi’i achosi,” meddai Waze wrth ymateb.
“Ar ôl ymchwilio ymhellach, gallwn gadarnhau bod ein tîm datblygu yn ymwybodol o’r broblem hon yn barod a dylai’r llais coll ddychwelyd yn y fersiwn nesaf, [fersiwn] 4.83.
“Rydyn ni’n gwerthfawrogi eich amynedd ac eich dealltwriaeth yn y cyfamser.”
Mewn neges gan y cwmni heddiw (dydd Llun, Mai 23), dywedodd llefarydd ar ran Waze y “dylai’r lleisiau Cymraeg yn Waze fod yn weithredol erbyn hyn”.
Sut mae Waze yn gweithio?
Mae Waze yn cyfrifo’r llwybrau teithio cyflymaf drwy gasglu gwybodaeth yn uniongyrchol gan ddefnyddwyr y teclyn.
Mae’n gwneud hyn drwy fonitro symudiadau, a chasglu data a gwybodaeth yn fyw gan ddefnyddwyr am draffig, felly does dim angen dibynnu ar yr awdurdodau lleol am wybodaeth.
Nod Waze yw cynnig llwybrau teithio amgen os yw’r data’n dangos rhwystrau sy’n atal gyrwyr rhag teithio’n gyflym.
Mae’r ap ar gael i’w lawrlwytho’n rhad ac am ddim, ac mae’n cael ei ddefnyddio gan fwy na 100m o bobol ar draws y byd.
Cafodd ei sefydlu’n gwmni annibynnol yn 2008, ond cafodd ei brynu gan Google bum mlynedd yn ddiweddarach, ond mae’r dechnoleg ar wahân i dechnoleg Google ei hun.
Ers ei sefydlu, fe fu Waze ar gael mewn mwy na 50 o ieithoedd.