Dylai’r llais Cymraeg ar ap Waze, sy’n gweithredu fel satnav, ddychwelyd gyda’r fersiwn nesaf o’r ap, medd y cwmni.

Fe wnaeth mwy a mwy o bobol alw am ailgyflwyno llais Cymraeg Waze ar ôl i golwg360 adrodd am bryderon un dyn o Bwllheli sy’n defnyddio’r teclyn ychydig wythnosau yn ôl.

Erbyn hyn, mae un o ddefnyddwyr eraill Waze wedi derbyn ymateb yn dweud y dylai’r llais coll ddychwelyd gyda fersiwn 4.83 o’r ap.

“Rydyn ni’n ymddiheuro am yr anghyfleustra y gallai hyn fod wedi’i achosi,” meddai Waze wrth ymateb i gŵyn ynghylch diffyg llais Cymraeg.

“Ar ôl ymchwilio ymhellach, gallwn gadarnhau bod ein tîm datblygu yn ymwybodol o’r broblem hon yn barod a dylai’r llais coll ddychwelyd yn y fersiwn nesaf, [fersiwn] 4.83.

“Rydyn ni’n gwerthfawrogi eich amynedd ac eich dealltwriaeth yn y cyfamser.”

‘Y Gymraeg yn fyw yn yr oes dechnolegol’

Wrth fynegi ei siom cychwynnol, dywedodd Gareth Jones o Bwllheli, bod yr ap yn darparu llais Cymraeg “ers blynyddoedd” a’i fod yn “arbennig o safonol”.

“Mae yn brawf cyhoeddus bod y Gymraeg yn fyw yn yr oes dechnolegol hon.

“Yn sydyn, sylwais nad oedd ar gael.

“Anfonais ymholiad, a dyma’r neges a dderbyniais [yn Saesneg]: ‘Diolch am gysylltu â ni am y llais Cymraeg hyrwyddol. Rydym yma i helpu. Roedd y llais a’r hwyliau Cymraeg ar gael am gyfnod penodol fel rhan o hyrwyddiad arbennig’.

“Roeddwn yn hynod siomedig i dderbyn yr ymateb hwn. Cam mawr yn ôl.”

Yn ôl Waze, problemau technegol sy’n gyfrifol am y diffyg llais Cymraeg.

Sut mae Waze yn gweithio?

Mae Waze yn cyfrifo’r llwybrau teithio cyflymaf drwy gasglu gwybodaeth yn uniongyrchol gan ddefnyddwyr y teclyn.

Mae’n gwneud hyn drwy fonitro symudiadau, a chasglu data a gwybodaeth yn fyw gan ddefnyddwyr am draffig, felly does dim angen dibynnu ar yr awdurdodau lleol am wybodaeth.

Nod Waze yw cynnig llwybrau teithio amgen os yw’r data’n dangos rhwystrau sy’n atal gyrwyr rhag teithio’n gyflym.

Mae’r ap ar gael i’w lawrlwytho’n rhad ac am ddim, ac mae’n cael ei ddefnyddio gan fwy na 100m o bobol ar draws y byd.

Cafodd ei sefydlu’n gwmni annibynnol yn 2008, ond cafodd ei brynu gan Google bum mlynedd yn ddiweddarach, ond mae’r dechnoleg ar wahân i dechnoleg Google ei hun.

Ers ei sefydlu, fe fu Waze ar gael mewn mwy na 50 o ieithoedd.

“Dewch â Gareth yn ôl,” medd defnyddwyr Waze

Rhagor o ymateb i ddiffyg Cymraeg ar declyn i yrwyr

Diffyg llais Cymraeg ar declyn llais Waze “yn gam mawr yn ôl”

Alun Rhys Chivers

Dywedodd y cwmni wrth Gareth Jones o Bwllheli mai “am gyfnod byr yn unig” yr oedd y llais Cymraeg ar gael