Bydd cynllun newydd yn edrych at sut y gall hydrogen o garthion gael ei ddefnyddio i gwtogi llygredd amgylcheddol.
Mae Prifysgol De Cymru yn un o dri phartner sydd wedi derbyn arian i weithio ar brosiect HyValue, sy’n cael ei arwain gan Dŵr Cymru.
Bydd Dŵr Cymru, Prifysgol De Cymru a Costain yn edrych ar ffyrdd o ddatblygu proses i droi’r methan sy’n dod o laca (sewage sludge) i hydrogen, a chasglu’r carbon deuocsid sy’n cael ei greu.
Yn ôl amcangyfrifon, gallai’r broses olygu bod 90% yn llai o garbon deuocsid yn cael ei ryddhau i’r atmosffer.
Ynghyd â hynny, bydd y prosiect yn ceisio datblygu’r defnydd o hydrogen wrth bweru ceir, a fyddai’n arwain at ostyngiad mewn allyriadau carbon deuocsid ac ocsid nitraidd.
Bydd y partneriaid yn ceisio dangos sut y gall y broses gynnig manteision amgylcheddol a gwerth am arian. Os bydd yn llwyddiannus, gobaith y tîm yw datblygu cynlluniau ar gyfer gwaith trosi nwy carthion yn un o gyfleusterau treulio anaerobig Dŵr Cymru.
‘Cam mawr’
Dywedodd Jon Maddy, Cyfarwyddwr Canolfan Ymchwil a Datblygu Hydrogen Prifysgol De Cymru ym Maglan: “Mae’r Diwydiant Dŵr wedi mabwysiadu treuliad anaerobig fel proses trin gwastraff effeithiol a ffynhonnell ynni wedi’i adfer ar ffurf methan.
“Mae prosiect HyValue yn mynd â’r dull gweithredu hwn gam ymhellach drwy ymchwilio i gynhyrchu hydrogen i’w ddefnyddio fel tanwydd glân ac i gipio carbon deuocsid, gyda’r potensial i ddefnyddio hyn wrth gynhyrchu cemegau gwerthfawr.”
Ychwanegodd Ben Burggraaf, Pennaeth Ynni Dŵr Cymru, bod HyValue yn “gam mawr tuag at droi’r diwydiant yn gyfres o fio-burfeydd y dyfodol net-sero, lle bydd hydrogen yn chwarae rhan bwysig”.
“Mae’r prosiect yn galluogi’r diwydiant, ar ran ei gwsmeriaid, i fanteisio i’r eithaf ar y gwerth ariannol ac amgylcheddol y gellir ei gael o garthion.”