Mae Cymdeithas yr Iaith yn galw ar ymgeiswyr yn yr etholiadau lleol yn Sir Gaerfyrddin i roi gobaith i gymunedau gwledig drwy gynnig sicrwydd ynghylch dyfodol ysgolion pentref.
Daw’r ple ar drothwy’r etholiadau lleol ddydd Iau (Mai 5).
Rai misoedd yn ôl, penderfynodd Bwrdd Gweithredol Cyngor Sir Caerfyrddin beidio â chau ysgolion pentrefi Mynydd-y-Garreg a Blaenau, ond yn hytrach i adolygu’r “Cynllun Moderneiddio Addysg”, a oedd wedi bygwth dyfodol degau o ysgolion pentrefi’r sir, yn ei gyfanrwydd.
“Mae’r ‘Cynllun Moderneiddio Addysg’ wedi bwrw cysgod dros ddwy genhedlaeth o ddisgyblion cynradd ers 2005 erbyn hyn,” meddai Sioned Elin ar ran Cymdeithas yr Iaith yn Sir Gaerfyrddin, lle bu hi ei hun yn rhiant mewn ysgol bentref.
“Mae rhieni a chymunedau wedi bod dan ansicrwydd am eu dyfodol oherwydd bod y Cynllun wedi gweld ysgolion pentref mewn modd negyddol iawn.
“Daeth hyn yn broblem i lywodraethwyr o ran denu disgyblion i’r ysgolion ac o ran denu buddsoddiad, a chollwyd nifer o ysgolion a chymunedau Cymraeg.”
Diwygio’r Cynllun Moderneiddio
Tra eu bod yn “llongyfarch” Bwrdd Gweithredol y Cyngor am frwydro i gadw ysgolion Mynyddygarreg a Blaenau ar agor, mae Cymdeithas yr Iaith yn galw am ddiwygio’r Cynllun Moderneiddio fel ei fod yn cydnabod gwerth ysgolion i gymunedau pentrefol a photensial addysgol cydweithio rhwng ysgolion.
“Dadl swyddogion y Cyngor Sir bob amser fu nad oedd Llywodraeth ganolog yn barod i fuddsoddi mewn ysgolion bach,” meddai Sioned Elin wedyn.
“Ond mewn llythyr at Gymdeithas yr Iaith fis yn ôl, dywedodd y Gweinidog Addysg ’nad oes rhagdybiaeth yn erbyn buddsoddi mewn ysgolion bach a gall awdurdodau lleol gyflwyno cynigion perthnasol yn eu rhaglen amlinellol strategol ar gyfer buddsoddi.
“Mynnwn fod ysgolion bach a gwledig yn haeddu eu cyfran teg o fuddsoddiad.
“Byddwn yn anfon yr alwad yma at y gwahanol garfannau gwleidyddol sydd ag ymgeiswyr ar gyfer yr etholiadau lleol gan fod angen y gobaith newydd hwn ar gymunedau gwledig Cymraeg mewn cyfnod anodd.
“Byddwn hefyd yn galw arnynt i ddatgan eu bod yn dal i fwriadu rhoi pob ysgol yn y sir ar lwybr tuag at addysg gyfrwng-Cymraeg fel na chaiff unrhyw ddisgybl ei amddifadu o’r sgil i allu cyfathrebu a gweithio yn y ddwy iaith.”
Ymateb y Llywodraeth
“Gallaf gadarnhau nad oes rhagdybiaeth yn erbyn buddsoddi mewn ysgolion bach a gall awdurdodau lleol gyflwyno cynigion perthnasol yn eu rhaglen amlinellol strategol ar gyfer buddsoddi,” meddai Jeremy Miles, Ysgrifennydd Addysg Cymru, mewn llythyr at Ffred Ffransis o Grŵp Ymgyrch Addysg y Gymdeithas ar Ebrill 30.