Bydd presenoldeb heddlu Tsieina yn Ynysoedd Solomon fel rhan o gytundeb newydd yn hwb i’r ynysoedd, medd prif ddiplomat, gan addo na fydd golygfeydd tebyg i’r rhai sydd wedi’u gweld yn Hong Kong dros y blynyddoedd diwethaf.

Mae gwledydd y Gorllewin eisoes yn poeni y gallai’r cytundeb arwain at roi mynediad i filwyr Tsieina i ynysoedd y Môr Tawel, ond maen nhw bellach yn poeni y gallai’r heddlu ddefnyddio tactegau tebyg i’r hyn wnaethon nhw yn Hong Kong, gan gyfyngu’n sylweddol ar hawliau’r bobol i brotestio yn erbyn y llywodraeth.

Doedd heddlu’r ynysoedd ddim wedi gallu tawelu protestiadau sylweddol yn y brifddinas Honiara fis Tachwedd y llynedd, meddai Robert Sisilo, Uwch Gomisiynydd Ynysoedd Solomon yn Awstralia.

Fel rhan o’r cytundeb, gallai milwyr Tsieina gael eu hanfon i Ynysoedd Solomon i weithio o dan awdurdod heddlu’r ynysoedd, yn union fel y bu heddlu Awstralia’n ei wneud.

Mae Manesseh Sogavare, prif weinidog Ynysoedd Solomon, eisoes wedi wfftio’r posibilrwydd o godi safle milwrol Tsieinïaidd yno, gan ddweud bod y cytundeb â heddlu Awstralia’n “ddigonol”.

Diweithdra

Roedd diweithdra’n ffactor yn y protestiadau yn Ynysoedd Solomon ym mis Tachwedd, yn ôl Awstralia.

Maen nhw’n gobeithio y gallai mwy o gydweithio ag Awstralia arwain at roi mwy o fisas a thrwyddedau i ddod yn drigolion parhaol.

Mae Awstralia eisoes wedi rhoi 3,000 o fisas i drigolion Ynysoedd Solomon fel rhan o gynllun llafur sy’n galluogi trigolion ynysoedd y Môr Tawel i symud er mwyn gweithio mewn ardaloedd gwledig.

Y gobaith yw y gallai’r cynllun hwnnw gael ei ymestyn i’r dinasoedd a threfi hefyd.

Mae gan Ynysoedd Solomon boblogaeth o ryw 700,000 o bobol ac maen nhw’n dibynnu ar gymorth tramor gan Awstralia a Tsieina i roi hwb i’r economi.