Mae Llywodraeth Sbaen wedi cyhoeddi bod y prif weinidog Pedro Sanchez a Margarita Robles, y gweinidog amddiffyn, wedi cael eu targedu gan feirws Pegasus sydd wedi arwain at helynt ‘Catalangate’.
Mae Llywodraeth Sbaen yn dweud bod bygythiad iddyn nhw “o’r tu allan”, ar ôl iddyn nhw orfod gwadu bod rhywun neu rywrai o’r tu fewn i’r llywodraeth wedi targedu Catalwnia yn fwriadol.
Mae lle i gredu bod ffonau Pedro Sanchez a Margarita Robles wedi cael eu hacio y llynedd, ond dydy hi ddim yn glir ar hyn o bryd pam ei bod wedi cymryd cyhyd i gynnal ymchwiliad i gysylltiad honedig â Pegasus.
Yn dilyn y digwyddiad cyntaf, yn ôl Llywodraeth Sbaen, llwyddodd yr hacwyr i gael hyd i 2.6GB o wybodaeth o ffôn y prif weinidog, a 130MB yr ail dro.
Cawson nhw 9MB o wybodaeth oddi ar ffôn Margarita Robles, ond dydy hi ddim yn glir beth yw natur y wybodaeth dan sylw.
Pecyn yw Pegasus sy’n galluogi pobol i gael mynediad i ddyfeisiau o bell, ac mae hyn yn cynnwys fideo, ffotograffau, y meicroffôn a’r gallu i gymryd ciplun o’r sgrin, yn ôl arbenigwr ar seibrddiogelwch fu’n siarad â Catalan News.
Does dim rhaid i dderbynydd agor neges er mwyn cael y feirws.
Ymchwiliad a Catalangate
Yn dilyn y cyhoeddiad am Pedro Sanchez a Margarita Robles, mae disgwyl i ffonau pob gweinidog gael eu harchwilio rhag ofn eu bod nhw hefyd wedi cael eu targedu.
Mae’r llywodraeth yn addo cryfhau eu systemau diogelwch er mwyn ceisio atal ymosodiad pellach.
Daw’r sefyllfa ddiweddaraf yn sgil ffrae sy’n cael ei hadnabod fel ‘Catalangate’, gyda honiadau bod nifer o wleidyddion ac ymgyrchwyr o blaid annibyniaeth wedi cael eu targedu gan rywun neu rywrai ar ran Llywodraeth Sbaen.
Er bod y rhan fwyaf o ymosodiadau rhwng 2017 a 2020, roedd un ymosodiad y mae’r awdurdodau’n ymwybodol ohono yn 2015, sef ymosodiad seibr ar Jordi Sanchez, cyn-Lywydd Cynulliad Cenedlaethol Catalwnia (ANC) a gafodd ei garcharu am ei ran yn refferendwm annibyniaeth Catalwnia yn 2017.
Mae holl arlywyddion Catalwnia ers 2010 hefyd wedi cael eu targedu, sef Artur Mas (2010-2015), Quim Torra (2018-2020) a Pere Aragonès (pan oedd e’n ddirprwy arlywydd).
Chafodd Carles Puigdemont (2016-2017) ddim ymosodiad uniongyrchol arno, ond cafodd 11 o’i gydnabod eu targedu, gan gynnwys ei wraig a’i gyfreithiwr.