Mae Alexa Price yn gyd-olygydd adran Taf-od yn y papur newydd Gair Rhydd ac adran Spotlight yn y cylchgrawn celfyddydol Quench ym Mhrifysgol Caerdydd. Yma, mewn erthygl arbennig i golwg360, mae hi’n holi un o’r ymgeiswyr yn etholiadau lleol Cathays yng Nghaerdydd pam fod yr etholiadau’n bwysig, yn enwedig i fyfyrwyr…
Dros yr wythnosau diwethaf mae ymgeiswyr wedi bod yn paratoi at yr etholiadau lleol, sydd yn digwydd ar draws yr wlad ar Fai 5.
Er bod rhai yn teimlo nad yw’r etholiadau i ddod mor bwysig ag etholiadau’r Senedd a digwyddodd y flwyddyn diwethaf, mae modd dadlau bod rhain yn cael fwy o effaith uniongyrchol ar ein bywydau bob dydd.
Ond beth ydyn ni wir yn pleidleisio drosto y tro yma?
Mae gan Gymru 22 awdurdod lleol sydd yn edrych i ethol 1,234 o gynghorwyr tu fewn i 762 o etholaethau.
Y cynghorwyr yma felly sydd yn gyfrifol am drin materion lleol. O drafnidiaeth gyhoeddus, i faterion ysgolion yr ardal, rôl y cynghorwyr yw i gynrychioli’r bobol ac i geisio sicrhau bodlonrwydd y cyhoedd. Nhw sydd yn sicrhau ein bod ni yn cael llais yn y Cyngor.
Yng Nghymru bydd y cyhoedd yn gallu pleidleisio rhwng 7:00yb a 22:00yp ar Fai 5.
Fel yr etholiadau y flwyddyn diwethaf, mae gan unrhyw un dros 16 oed yr hawl i bleidleisio.
Yn lle cyfri’r pleidleisiau dros nos, bydd canlyniadau Cymru fwy na thebyg yn dod allan ar nos Wener neu fore Sadwrn, gan fod y cyfri yn dechrau ar y bore Gwener.
Pam, felly, ydy’r Etholiadau Lleol yn bwysig ar gyfer myrfyrwyr yng Nghymru?
Ystyriwn ardal Cathays yng Nghaerdydd fel tref y myfyrwyr.
Mae gan Cathays dros draean o fyfyrwyr prifysgolion y ddinas, sef Prifysgol Caerdydd, Prifysgol De Cymru, a Phrifysgol Fetropolitan Caerdydd.
Mae angen, felly, bod yr Cyngor yn cynrychioli ac yn gweithio ar gyfer y myfyrwyr, yn ogystal â phobol eraill yr ardal.
Er bod Cathays yn ardal liwgar a bywiog, fel pob ardal mae yna le i wella.
Er enghraifft, un broblem sydd yn cael ei gweld yn aml yw’r lefelau sbwriel sydd ar y strydoedd, neu’r angen ar gyfer mwy o lonydd beicio yn yr ardal i sicrhau bod myrfyrwyr yn gallu teithio’n fwy diogel.
Os oes modd i ni fel myfyrwyr weld newid yn yr ardal, fe ddaw’r newidiadau yma o ganlyniad i waith yr awdurdod lleol.
Os ydym ni am weld newid, felly, mae angen bod myrfyrwyr yn pleidleisio.
Gobeithion ymgeisydd yn yr ardal
Mae Deio Sion Llewelyn Owen, myfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd, yn rhedeg ar gyfer y cytundeb cyd-sefyll sydd gan Blaid Cymru a’r Blaid Werdd yn ardal Cathays.
Yn ogystal ag astudio ar gyfer ei radd yn y Gymraeg a Gwleidyddiaeth, mae Deio wedi ymgyrchu dros hawliau siaradwyr Cymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd, ac wedi cael ei ethol yn ddiweddar gan ei gyd-fyfyrwyr fel Swyddog y Gymraeg.
“Dewisais i Gaerdydd i fod yn agos efo materion gwleidyddol, a dwi’n teimlo’n sicr mai’r ffordd orau i greu newid yw i fod yng nghanol penderfyniadau.
“Mae hi’n bwysig bod pobol ifanc yn mynd amdani ac yn defnyddio eu lleisiau i wneud.”
Er ei fod yn rhedeg mor ifanc, mae gan Deio frwdfrydedd i sicrhau bod lleisiau pobol ifanc Cathays yn cael eu clywed a’u parchu.
Mae Deio yn dod o Bwllheli yng Ngwynedd, sy’n cael eu cynrychioli yn y Senedd gan Blaid Cymru.
“Roeddwn i yn meddwl bod o’n cyfle gwych i adlweyrchu beth sydd wedi’i gyflawni yng Ngwynedd lawr yng Nghaerdydd,” meddai wrth golwg360.
“Mae’n bwysig i ddangos eich bod chi yn gallu dysgu o lefydd eraill.
“Un o’r ymgyrchoedd mwyaf rydym ni yn rhedeg ydy warchod trac seiclo, sydd yn amlwg yn bwysig iawn yng nghymdeithas. Dwi’n cydnabod bod angen y gwasanaethau a chyfleusterau gorau ar gyfer ysgolion a phobl lleol.”
Mae gan Deio, felly, obeithion amlwg ar gyfer yr ardal ac mae e eisiau i’r bobol lleol gael eu cynrychioli yn y Cyngor.
“Mae’n bwysig ein bod ni yn cadw ati i weithio o blaid y bobol sydd yn byw yng Nghaerdydd,” meddai wedyn.
Cathays – digon o ddewis
Mae gan Cathays y rhestr fwyaf o ymgeiswyr yn y Deyrnas Unedig y flwyddyn yma, sydd yn gadael myfyrwyr efo digon o ddewis.
Mae’r etholiadau lleol yn digwydd ar ddydd Iau, Mai 5.
Defnyddiwch eich hawl i ddewis er mwyn sicrhau eich bod chi yn cael eich cynrychioli yn eich awdurdod lleol.