Mae mwy a mwy o bobol yn galw am ailgyflwyno llais Cymraeg Waze, ar ôl i golwg360 adrodd ddoe (dydd Mercher, Ebrill 20) am bryderon un dyn o Bwllheli sy’n defnyddio’r teclyn.

Yn ôl Gareth Jones, fe fu Waze, sy’n gweithredu fel satnav i yrwyr, yn darparu llais Cymraeg “ers blynyddoedd”, ac mae’n dweud bod y llais hwnnw’n “arbennig o safonol”.

Ond fe ddywedodd ei fod e’n “siomedig” yn sgil ymateb y cwmni i’w bryderon nad yw’r llais bellach yn cael ei gynnig i yrwyr Cymraeg eu hiaith.

“Rwy’ wedi bod yn defnyddio llais Cymraeg Waze, sy’n rhoi cyfarwyddiadau wrth yrru car, ers blynyddoedd, ac wedi cael y llais i fod yn arbennig o safonol,” meddai wrth golwg360.

“Mae yn brawf cyhoeddus bod y Gymraeg yn fyw yn yr oes dechnolegol hon.

“Yn sydyn, sylwais nad oedd ar gael.

“Anfonais ymholiad, a dyma’r neges a dderbyniais [yn Saesneg]: ‘Diolch am gysylltu â ni am y llais Cymraeg hyrwyddol. Rydym yma i helpu. Roedd y llais a’r hwyliau Cymraeg ar gael am gyfnod penodol fel rhan o hyrwyddiad arbennig’.

“Roeddwn yn hynod siomedig i dderbyn yr ymateb hwn. Cam mawr yn ôl.”

Yn ôl Waze, problemau technegol sy’n gyfrifol am ddiffyg llais Cymraeg.

“Mae’n ymddangos ein bod ni’n cael ychydig o drafferthion gydag ambell un o’n lleisiau ar hyn o bryd (gan gynnwys y Gymraeg),” meddai llefarydd wrth golwg360.

“Ond mae ein tîm yn gweithio ar y rhain, ac fe ddylen nhw fod yn gweithio’n fuan.”

Ymateb pellach gan ddefnyddwyr

Mae nifer o sylwadau gan ddefnyddwyr eraill bellach wedi cael eu postio ar wefan Waze, yn mynegi’r un siom â Gareth Jones.

“Mae hyn yn ofnadwy!” meddai Sioned. “Plis dewch â Gareth yn ôl.

“Waze oedd yr UNIG ffordd y gallwn i gael tro wrth dro yn fy iaith fy hun!

“Mae’n gas gen i fod yn y car gyda fy mhlant yn siarad Cymraeg yn naturiol a chael y sain yn bloeddio atom mewn iaith estron! Plis ailystyriwch!!!”

Yn ôl John, “mae gwrando ar gyfarwyddiadau yn fy iaith frodorol yn gwneud taith gymaint yn fwy hamddenol”, ac fe ddywedodd mai’r “unig reswm” iddo ddewis y teclyn oedd am ei fod ar gael yn y Gymraeg, ac roedd Amanda Skull yn cytuno, gan gynnig yr un rhesymau am ddewis y teclyn penodol hwn.

“Does bosib fod yna ffordd,” meddai Iwan Ellis-Roberts, “neu’r gallu i ychwanegu eich iaith eich hun?”

Yn ôl Angharad Elen, “dim ond yr opsiwn sydd gen i o ddewis fy ‘iaith leol’, ond nid fy iaith leol ydi hi o gwbl (Saesneg)”.

Ychwanegodd na fyddai’n “defnyddio Waze eto tan bod Gareth yn cael ei ailgyflwyno”.

Yn ôl Owain Williams, mae’r teclyn yn helpu i “normaleiddio” yr iaith.

“Iaith leiafrifol yw’r Gymraeg lle dw i’n byw, ac mae unrhyw bytiau o normalrwydd Cymraeg wir yn helpu i wneud yr iaith yn berthnasol i’r plant”.

Ac roedd gan Joseff Bailey-Wood neges uniongyrchol i Waze, sef “Gwarthus i weld hwn wedi’i dynnu. Gwna’n well, Waze”.

Sut mae Waze yn gweithio?

Mae Waze yn cyfrifo’r llwybrau teithio cyflymaf drwy gasglu gwybodaeth yn uniongyrchol gan ddefnyddwyr y teclyn.

Mae’n gwneud hyn drwy fonitro symudiadau, a chasglu data a gwybodaeth yn fyw gan ddefnyddwyr am draffig, felly does dim angen dibynnu ar yr awdurdodau lleol am wybodaeth.

Nod Waze yw cynnig llwybrau teithio amgen os yw’r data’n dangos rhwystrau sy’n atal gyrwyr rhag teithio’n gyflym.

Mae’r ap ar gael i’w lawrlwytho’n rhad ac am ddim, ac mae’n cael ei ddefnyddio gan fwy na 100m o bobol ar draws y byd.

Cafodd ei sefydlu’n gwmni annibynnol yn 2008, ond cafodd ei brynu gan Google bum mlynedd yn ddiweddarach, ond mae’r dechnoleg ar wahân i dechnoleg Google ei hun.

Ers ei sefydlu, fe fu Waze ar gael mewn mwy na 50 o ieithoedd.

 

Diffyg llais Cymraeg ar declyn llais Waze “yn gam mawr yn ôl”

Alun Rhys Chivers

Dywedodd y cwmni wrth Gareth Jones o Bwllheli mai “am gyfnod byr yn unig” yr oedd y llais Cymraeg ar gael