Mae Chris Bryant, Aelod Seneddol Llafur y Rhondda a chadeirydd Pwyllgor Breintiau San Steffan, yn dweud bod “rhaid i ni loywi, nid pardduo’r senedd”.

Daw ei sylwadau ar drothwy pleidlais ar ymchwiliad posib i honiadau bod Boris Johnson wedi camarwain y senedd ar bartïon Downing Street yn ystod cyfyngiadau clo Covid-19.

Y Pwyllgor Breintiau fyddai’n cynnal yr ymchwiliad pe bai’n cael ei gynnal, ond mae Chris Bryant wedi cymryd camau i ymbellhau oddi wrtho rhag i’r ymchwiliad gael ei gyhuddo o fod yn wleidyddol ragfarnllyd.

Wrth siarad yn San Steffan, mae Chris Bryant wedi tynnu sylw at gamweddau nifer o wleidyddion, sydd wedi arwain at waharddiadau ac achosion llys, yn ogystal â llofruddiaethau Jo Cox a Syr David Amess wrth iddyn nhw weithio.

Dywedodd fod yna faterion pwysicach nag ymddygiad Boris Johnson i’w trafod ar hyn o bryd, a bod angen arweinydd ag “awdurdod moesol llwyr” ar y Deyrnas Unedig, ac felly bod rhaid i’r ymchwiliad gaele ei gynnal.

Tro pedol

Daw sylwadau Chris Bryant ar ôl i Rif 10 Downing Street wneud tro pedol ar gynnig i geisio atal y bleidlais ar ymchwiliad.

Mae hyn yn golygu bod disgwyl i aelodau seneddol drafod a phleidleisio ar gynnig Llafur y dylai pwyllgor seneddol gynnal ymchwiliad, a bydd aelodau seneddol Ceidwadol yn cael rhwydd hynt i bleidleisio sut fynnon nhw.

Mae disgwyl, felly, i’r cynnig gael ei dderbyn ac y bydd Boris Johnson yn destun ymchwiliad.

Roedd gweinidogion y Llywodraeth wedi bod yn mynnu y dylid aros tan ar ôl i Heddlu Llundain a Sue Gray gwblhau eu hymchwiliadau i’r partïon cyn bwrw ymlaen.

Wrth ymateb, mae Angela Rayner, dirprwy arweinydd Llafur, yn dweud bod y tro pedol yn destun embaras i aelodau seneddol Ceidwadol “oedd dan bwysau i bleidleisio dros welliant celu y llywodraeth”.