Mae Cyngor Caerdydd dan y lach ar drothwy’r etholiadau lleol fis nesaf am geisio clirio coed i greu lle ar gyfer arena newydd y brifddinas.

Mae’r Cynghrair Tir Cyffredin yn cyhuddo’r Blaid Lafur yng Nghaerdydd o “wleidyddiaeth hunangyfiawn, ddiofal”.

Yn ôl y Gynghrair, mae’r cynllun yn un o ddwy brif flaenoriaeth Russell Goodway, Aelod Cabinet y Cyngor, ers 2017 ynghyd â sefydlu Gorsaf Fysiau Canolog Caerdydd.

Ond maen nhw’n tynnu sylw at agwedd “ling-di-long” y Cyngor wrth fynd i’r afael â’r orsaf, o’i gymharu â’r ffordd maen nhw’n brysio i dorri coed i wneud lle i’r arena – camau sydd “yn dangos diffyg parch llwyr i drigolion Caerdydd a’u hamgylchfyd”, meddai’r Gynghrair.

‘Datblygiad dadleuol dros ben’

“Mae bwrw ymlaen â chlirio coed a llwyni pan fo’r cynnig ar gyfer yr Arena wedi’i alw mewn gan Lywodraeth Cymru yn adrodd y cyfan sydd angen ei wybod am Lafur Caerdydd,” meddai Lewis Beecham, sy’n sefyll fel un o dri ymgeisydd y Gynghrair yn Butetown.

“Mae hyn ar adeg pan rydym yn deall bod Llywodraeth Cymru ei hun – dan arweiniad y Blaid Lafur wrth gwrs – wedi cyhoeddi cyfarwyddeb atal sy’n golygu na all adeiladu ddechrau eto.

“Mae hwn yn ddatblygiad hynod ddadleuol nad yw wedi derbyn fawr ddim craffu na chefnogaeth leol, ac sydd â nifer o farciau cwestiwn uwch ei ben, gan gynnwys cyllid a chynaliadwyedd.

“Mae’r ffaith eu bod yn dymuno clirio’r ardal yn ystod y tymor nythu, a chydag etholiad ar y gorwel, yn adrodd cyfrolau ynghylch y modd y mae nhw’n tybio y gallant ymddwyn yn ddigerydd, yng nghyswllt yr amgylchedd, a phleidleiswyr Caerdydd.

“Mae ein prifddinas yn haeddu cymaint gwell, a’r math yma o ymddygiad nodweddiadol gan Lafur ar draws y ddinas yw’r union reswm pam ein bod yn ymgyrchu ar lwyfan sy’n pwysleisio gofal dros gymunedau a byd natur.”

Yr arena

Mae’r arena newydd eisoes yn destun cryn ddadlau, wrth i Gymdeithas Sifil Caerdydd feirniadu’r cynllun wrth ymateb i ymgynghoriad cyn y cais.

Fe wnaethon nhw dynnu sylw at ddiffyg ymgynghoriad democrataidd, effaith negyddol y prosiect ar yr amgylchedd a diffyg cynllun busnes, a hynny er bod disgwyl i’r Cyngor fuddsoddi £200m o arian cyhoeddus i’w wireddu.

Er mwyn symud y cynllun yn ei flaen drwy wneud gwaith clirio cyn i’r gwaith adeiladu gael sêl bendith, mae’r Gynghrair yn dweud y bydd yn rhaid i’r Cyngor wneud y gwaith hwn fel rhan o’u hymdrechion i “reoli’r tir”, sef categori lle nad oes angen caniatâd cynllunio.

Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan y Cyngor.