Mae dros £12m wedi cael ei godi yng Nghymru at Apêl Ddyngarol Wcráin hyd yn hyn.

Mae’r ffigwr dros £300m ar gyfer y Deyrnas Unedig, ac fe fydd yr arian yn helpu teuluoedd fydd yn cael eu heffeithio gan y rhyfel a’r argyfwng dros yr wythnosau, misoedd a blynyddoedd i ddod.

Mae elusennau pwyllgor argyfyngau DEC wedi rhannu eu cynlluniau cychwynnol i helpu pobol sydd wedi cael eu heffeithio, gyda £75m wedi’i neilltuo ar gyfer y chwe mis cyntaf hyd at fis Awst eleni, a 55% yn cael ei wario yn Wcráin a’r gweddill mewn gwledydd cyfagos wrth i bum miliwn o bobol ffoi.

Er bod y cynlluniau gwario wedi cael eu cyhoeddi, mae’r DEC yn rhybuddio bod natur newidiol y sefyllfa’n golygu y gall fod angen addasu wrth ymateb i anghenion ar lawr gwlad.

Crynodeb o gynlluniau gwariant Elusennau DEC am y chwe mis cyntaf.

Bydd arian o’r apêl yn cael ei wario dros gyfnod o dair blynedd i ddiwallu anghenion parhaus y bobol sy’n cael eu heffeithio gan y gwrthdaro.

Arian parod: bydd 22% yn cefnogi anghenion pobl yr effeithir arnynt (pobl sydd wedi’u dadleoli’n fewnol, ffoaduriaid, ac mewn rhai achosion aelodau o’r cymunedau lletyol) trwy daliadau arian parod i ddiwallu anghenion sylfaenol hanfodol. Bydd hyn yn cael ei gyflwyno gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau megis cardiau rhagdaledig a throsglwyddiadau digidol.

Iechyd: bydd 21% yn cael ei wario ar ddarparu gwasanaethau gofal iechyd sylfaenol, darparu eitemau fel citiau trawma a phecynnau cymorth cyntaf, yn ogystal â chefnogi cyfleusterau gofal iechyd gydag offer megis crudiau cynnal a chywasgyddion ocsigen a chynnyrch fferyllol hanfodol.

Bwyd: bydd 13% yn cael ei wario ar ddosbarthu bwyd (siwgr, halen, blawd ceirch, sardinau tun, reis gwyn a the du), prydau poeth neu drwy gynnig talebau archfarchnad.

Dŵr, Glanweithdra a Hylendid: Bydd 10% yn cael ei wario ar ddŵr yfed diogel, gwybodaeth hylendid a phecynnau hylendid.

Diogelu: bydd 9% yn cael ei wario ar gymorth seicogymdeithasol i fenywod, plant, pobl hŷn a phobl ag anableddau, a hyfforddiant ar reoli straen.

Lloches: bydd 3% yn cael ei wario ar ddillad gwely, blancedi, tywelion, setiau cegin, caniau jerry, bwcedi ar gyfer pobl sydd wedi’u dadleoli a chymunedau lletyol.

Enghreifftiau o brosiectau sydd wedi’u hariannu gan DEC

Y tu mewn i Wcráin

Mae CAFOD yn gweithio gyda phartner lleol i ddosbarthu bwyd i bobol fregus gan gynnwys trwy geginau cawl, cyflenwi prydau dyddiol, basgedi bwyd wythnosol a pharatoi bwyd poeth i gefnogi’r bregus, yr henoed a theuluoedd sy’n byw yn y Metro a llochesi bomiau.

Bydd y Groes Goch Brydeinig yn gweithio drwy’r ICRC, i ddarparu gwasanaethau gofal iechyd sylfaenol gan gynnwys citiau i’r clwyfedig, hyfforddiant i dimau llawfeddygol, cyflenwi meddyginiaeth a deunyddiau i awdurdodau i’w cynorthwyo i ofalu am sifiliaid clwyfedig a phobl sydd wedi’u dadleoli’n fewnol, hyfforddiant cymorth cyntaf a sesiynau cymorth seicolegol mewn llochesi. Maent hefyd yn bwriadu dosbarthu eitemau cymorth allweddol gan gynnwys matiau cysgu, deunyddiau hylendid, cysgod dros dro e.e. tarpolinau ar gyfer atgyweiriadau brys i gartrefi, darparu dŵr glan mewn poteli a chymorth bwyd.

Mae Achub y Plant yn darparu unedau iechyd symudol, citiau trawma, nwyddau fferyllol, offer meddygol, cymorth maeth a dŵr yfed diogel.

Bydd Age International, trwy bartner lleol HelpAge, yn darparu cymorth bwyd ar ffurf pecynnau bwyd, (gan gynnwys grawn gwenith yr hydd, pasta, ffa, cig tun, olew blodyn yr haul, siwgr, halen, blawd ceirch, sardinau tun, reis a the du), citiau hylendid a glanweithdra a throsglwyddiadau arian parod.

Mae Concern Worldwide yn cefnogi teuluoedd gydag arian parod mewn tri rhandaliad misol ac yn darparu arian parod i grwpiau hunangymorth lleol a grwpiau cymdeithas sifil, i gefnogi cymunedau sy’n dioddef oherwydd y gwrthdaro.

Mewn gwledydd cyfagos

Yn Hwngari, mae Cymorth Cristnogol, trwy bartneriaid lleol, yn darparu lloches, mannau diogel i ffoaduriaid dderbyn gofal trawma, gwybodaeth am hawliau, bwyd ac arian parod amlbwrpas.

Ym Moldofa, bydd CARE International yn hyfforddi gwirfoddolwyr ar gymorth cyntaf seicolegol a bydd yn cefnogi sefydlu mannau croeso, hwyluso cydgysylltu rhyngasiantaethol a galluogi gwasanaethau ar gyfer ymatebwyr rheng flaen.

Byddan nhw hefyd yn cynorthwyo llochesi i gynyddu eu maint a darpariaeth  i sicrhau mynediad digonol at lety, bwyd a gwasanaethau amddiffyn.

Mae Action Against Hunger yn dosbarthu bwyd i ffoaduriaid a chymunedau lletyol ac yn darparu cymorth maeth mewn canolfannau ffoaduriaid a chroesfannau ffin.

Yng Ngwlad Pwyl, bydd ActionAid, drwy bartneriaid lleol, yn darparu cymorth ariannol i helpu ffoaduriaid i ddiwallu eu hanghenion sylfaenol ac mewn mannau cymorth bydd yn darparu bwyd, dŵr a eitemau hylendid.

Byddan nhw hefyd yn targedu menywod a merched a allai fod mewn perygl o drais ar sail rhywedd a masnachu mewn pobl trwy ddarparu gwasanaethau diogelu.

Mae’r International Rescue Committee yn cefnogi ffoaduriaid gydag arian parod fel y gall teuluoedd ddiwallu eu hanghenion sylfaenol uniongyrchol yn ddiogel. Bydd

Oxfam yn darparu mynediad gwell i ddŵr a chyfleusterau glanweithdra i ffoaduriaid, mannau diogel a chymorth cyfreithiol a gwasanaethau cymorth i ymateb i drais ar sail rhywedd a chymorth seico-gymdeithasol,.

Yn Rwmania, bydd World Vision, yn uniongyrchol a thrwy bartneriaid rhyngwladol a lleol ac arweinwyr ffydd, yn darparu pecynnau bwyd, hylendid ac urddas, lloches a gwasanaethau glanweithdra dros dro i ffoaduriaid mewn gwersylloedd.

Bydd Plan International yn darparu hybiau cymorth i blant a theuluoedd ar mewn safleoedd ar y ffin a llwybrau tramwy, gwybodaeth a gwasanaethau allgymorth mewn perthynas â thrais ar sail rhywedd a diogelu plant, citiau urddas ac eitemau hanfodol eraill.

‘Cynnydd sylweddol’

“Mae cyllid DEC wedi golygu ein bod wedi gallu cynyddu yn sylweddol ar ein gwaith presennol yn y wlad,” meddai Rachael Cummings, Arweinydd Iechyd elusen Achub y Plant.

“Rydym yn adeiladu ein hymateb i ddarparu unedau iechyd symudol, citiau trawma, adnoddau fferyllol, offer meddygol, cymorth maeth a dŵr yfed diogel i ymateb i’r argyfwng hwn. Rydym yn arbennig o bryderus am yr effaith ddinistriol ar blant ac mae’r cronfeydd hyn yn golygu y gallwn sicrhau bod plant yn derbyn gofal a chymorth o ansawdd uchel nawr, ac yn y misoedd i ddod.”

Yn ôl Vanessa Maynard, Swyddog Rhaglenni a Gweithrediadau Cymorth Cristnogol, mae cymorth ariannol wedi eu galluogi nhw i ymateb yn gyflym i’r argyfwng gan fanteisio ar bartneriaid lleol.

“Rydyn ni’n helpu i integreiddio ffoaduriaid i gymunedau trwy eu cefnogi gydag arian parod fel grŵp, fel y gallant benderfynu dros eu hunain beth yw’r ffordd orau i fynd i’r afael â’u hanghenion penodol,” meddai.

“Gallai hyn fod prynu cewynnau, talu rhent am lety yn y cymunedau lletya, neu hyd yn oed prynu bwyd ar gyfer yr anifeiliaid anwes y mae llawer wedi ffoi gyda nhw, anifeiliaid na allen nhw oddef eu gadael ar ôl.

“Rydyn ni hefyd yn darparu prydau poeth i ffoaduriaid, lloches dros dro mewn canolfannau cymunedol, mannau diogel i blant dderbyn gofal trawma, a gwybodaeth i ffoaduriaid am eu hawliau pan maen nhw’n cyrraedd y gwledydd lletyol.”

Arian yn dal i ddod

Mae ymdrechion codi arian hanfodol yn parhau a rhoddion dal i gyrraedd, gydag unigolion, cwmnïau, ysgolion a sefydliadau celfyddydol dal i godi arian ar gyfer yr apêl.

Mae’r cyfanswm o £12m ar gyfer Cymru yn cynnwys rhodd o £4m gan Lywodraeth Cymru, tra bod £300m ar lefel y Deyrnas Unedig yn cynnwys £25m o arian cyfatebol gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.

“Mae elusennau DEC wedi bod yn cynyddu eu gwaith yn gyflym ac yn effeithlon i helpu pobl yn Wcráin a ffoaduriaid sy’n ffoi dros y ffin,” meddai Saleh Saeed, Prif Weithredwr y DEC.

“Rydym yn gweld effaith y gwaith y maent yn ei wneud, boed hynny drwy ddarparu crudiau cynnal i fabanod a aned yn ystod y gwrthdaro, neu’n waith diogelu hanfodol i sicrhau bod ffoaduriaid sy’n agored i niwed yn cael eu cadw’n ddiogel wrth iddyn nhw ffoi.

“Rydym yn hynod ddiolchgar i’r cyhoedd hael, a’r holl bobol a sefydliadau ysbrydoledig sy’n parhau i wneud popeth o fewn eu gallu i gefnogi pobol y mae’r gwrthdaro dinistriol hwn yn effeithio arnyn nhw.

“Rydym wedi gweld popeth o arwerthiannau pobi mewn pentrefi i ocsiynau gwaith celf ac wrth gwrs, cyngherddau codi arian anhygoel ar gyfer Wcráin, fel y darlledwyd gan ITV ac S4C yng Nghymru.

“Mae’n teimlo bod pawb yn gwneud eu rhan a mwy.”