Mae tri o bobol wedi’u cael yn euog o lofruddio Logan Mwangi, bachgen bach pump oed, yn ardal Sarn ger Pen-y-bont ar Ogwr.

Cafwyd hyd i’w gorff yn afon Ogwr am oddeutu 6 o’r gloch y bore ar Orffennaf 31 y llynedd.

Ffoniodd Angharad Williamson, ei fam, yr heddlu ac mae hi’n un o’r tri, ynghyd â’i phartner John Cole a llanc 14 oed, sydd wedi’u cael yn euog o’i ladd.

Yn ystod achos oedd wedi para deg wythnos, clywodd y llys fod y tri wedi cynllwynio i gelu llofruddiaeth y bachgen bach yn ystod yr oriau wedi ei farwolaeth.

Clywodd y llys recordiad o alwad 999 Angharad Williamson, oedd yn honni bod ei mab wedi mynd ar goll.

Fe wnaethon nhw hefyd weld deunydd camera corff yn ei dangos hi’n pledio â’r heddlu i’w helpu i ddod o hyd i’w mab, gan honni’n ddiweddarach fod dynes arall wedi ei gipio.

Ar ôl dod o hyd i’w gorff, roedd yr heddlu’n teimlo bod amgylchiadau amheus, ac fe gafodd John Cole a’r llanc 14 oed eu gweld ar gamerâu cylch-cyfyng yn symud corff Logan yn oriau man y bore.

Pan gafodd ei holi gan yr heddlu, dywedodd Angharad Williamson ei bod hi wedi cysgu drwy gydol y nos, gan wadu ei bod hi wedi bod yn diffodd goleuadau a symud llenni yn y tŷ.

Daeth archwiliad post-mortem i’r casgliad fod Logan wedi cael 56 o anafiadau, a rhai ohonyn nhw mor ddifrifol nes eu bod nhw’n debyg i anafiadau sy’n cael eu hachosi gan gwymp o gryn uchder neu wrthdrawiad cyflymdra uchel.

Yn ogystal â llofruddio, mae’r tri hefyd wedi’u cael yn euog o wyrdroi cwrs cyfiawnder, a byddan nhw’n cael eu dedfrydu maes o law.

Ymateb yr heddlu

“Roedd Logan yn fachgen bach pump oed hardd, disglair a diniwed, a’i fywyd cyfan o’i flaen,” meddai llefarydd ar ran Heddlu’r De.

“Mae’n anodd dychmygu sut y gwnaeth Logan ddioddef, mae’n rhaid, dan law’r rheiny yr oedd yn ymddiried ynddyn nhw, ac yn amhosib amgyffred sut y gwnaeth y rheiny a ddylai fod wedi ei garu a’i warchod e ei fradychu yn y ffordd waethaf bosib.

“Mae’r ymdrechion i gelu’r drosedd yn yr oriau wedi marwolaeth Logan a’r we o gelwyddau a thwyll a fyddai’n dilyn yn arwydd o’u dideimladrwydd a’u diffyg edifeirwch.

“Does dim modd mesur effaith marwolaeth drasig Logan ar gynifer o bobol.

“All dim byd ddod â Logan yn ôl, ond gobeithio y bydd y canlyniad heddiw’n dod â rhywfaint o gysur i’r sawl oedd yn ei garu.

“Byddwn ni’n parhau i gynnig cefnogaeth arbenigol i’r sawl sydd wedi’u heffeithio, a hoffwn annog y sawl o’r gymuned leol sy’n parhau i gael eu heffeithio i estyn allan am gefnogaeth.”

Talu teyrnged

“Hoffwn hefyd dalu teyrnged i’r proffesiynoldeb a gafodd ei ddangos gan blismyn a chydweithwyr yn y gwasanaethau brys oedd yn wynebu’r golygfeydd mwyaf trawmatig y gellir eu dychmygu fis Gorffennaf y llynedd, a diolch i fy nhîm o dditectifs sydd wedi gweithio’n ddiflino ar yr ymchwiliad hwn, ynghyd â Gwasanaeth Erlyn y Goron a chyfreithwyr yr erlyniad.

“Fe wnaeth ymdrechion pawb gyfrannu at y canlyniad heddiw.”