Mae gwleidyddion yn San Steffan wedi dewis cynnal ymchwiliad i ymddygiad Boris Johnson, yn dilyn honiadau ynghylch partïon yn Downing Street yn ystod cyfnodau clo Covid-19.

Cafodd cynnig ei gyflwyno yn galw ar bwyllgor seneddol i benderfynu a oedd Boris Johnson, wrth wadu bod unrhyw reolau wedi cael eu torri, yn euog o ddirmyg seneddol ar ôl iddo fe gael dirwy gan Heddlu Llundain am barti anghyfreithlon.

Cafodd y cynnig ei basio heb wrthwynebiad, ar ôl i’r Llywodraeth Geidwadol benderfynu’n gynharach i wneud tro pedol ar ymdrechion i ohirio penderfyniad ynghylch cynnal ymchwiliad.

Beth nesaf?

Yn dilyn penderfyniad aelodau seneddol, bydd pwyllgor yn cynnal ymchwiliad ac yn cyhoeddi adroddiad, gan nodi a ydyn nhw’n credu bod Boris Johnson yn euog o ddirmyg seneddol – hynny yw, a wnaeth e gamarwain y senedd.

Os ydyn nhw’n penderfynu ei fod e wedi camarwain gwleidyddion, yna mae sawl cam posib y gallen nhw eu cymryd.

Ymhlith y camau hynny mae cerydd, gwaharddiad am gyfnod penodol hyd at ddiwedd y senedd hon, neu ei wahardd yn llwyr o Dŷ’r Cyffredin.

Mae posibilrwydd hefyd y gallen nhw argymell ymddiheuriad yn San Steffan.

Ar ôl unrhyw argymhellion gan y pwyllgor, bydd yn rhaid i aelodau seneddol bleidleisio i benderfynu a ydyn nhw’n derbyn casgliadau’r ymchwiliad.

Ymateb yng Nghymru

Ymhlith y rhai sydd wedi ymateb yng Nghymru mae Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, a Chris Bryant, Aelod Seneddol Llafur y Rhondda.