Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn dweud y gallai pleidleisio dros Lafur yn yr etholiadau lleol fis nesaf arwain at gostau tagfeydd i weithwyr a thwristiaid.

Maen nhw’n galw ar weinidogion ym Mae Caerdydd i wfftio’r posibilrwydd o gyflwyno rheoliadau i alluogi cynghorau Llafur i gyflwyno’r hyn maen nhw’n eu galw’n drethi “economaidd anllythrennog a gwrth-weithwyr”.

Ar ôl i’r Ceidwadwyr gyflwyno cynnig gerbron Cyngor Caerdydd yn ddiweddar, fe wnaeth y Blaid Lafur wrthod pleidleisio yn erbyn cyflwyno costau tagfeydd yn y brifddinas, yn dilyn cynnig yn 2020 a fyddai wedi gweld gyrwyr yn gorfod talu £2 neu £3 y dydd i yrru i mewn i’r brifddinas, ac eithrio trigolion lleol.

Ond cafodd ei ystyried yn dreth ar drigolion y cymoedd cyfagos sy’n teithio i’r brifddinas i weithio neu i gael mynediad i wasanaethau cyhoeddus a masnachol.

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn poeni y gallai mesurau o’r newydd gosbi pobol sy’n mynd i’r brifddinas a chwmnïau sy’n ceisio recriwtio a chyflogi staff, yn ogystal â busnesau sy’n ddibynnol ar weithwyr a thwristiaid.

Yn gefnlen i hyn hefyd mae costau byw cynyddol yn sgil chwyddiant a phrisiau ynni o ganlyniad i alw byd-eang a’r rhyfel yn Wcráin.

Llythyr

Mewn llythyr at Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig ac Aelod o’r Senedd dros Ganol De Cymru, dywedodd Vaughan Gething, Ysgrifennydd Economi Cymru, fod angen i weinidogion gyflwyno rheoliadau manwl yn unol â’r Ddeddf Drafnidiaeth cyn bod modd i’r cynllun fynd yn ei flaen.

Dywedodd y byddai hyn yn cynnwys asesiad effaith a chanlyniadau anfwriadol, gan gynnwys yr effaith ar fusnesau, ac y byddai angen i Gyngor Cyngor gynnal ymgynghoriad cyn cyflwyno unrhyw gynllun i godi tâl ar yrwyr.

Wrth ymateb i hyn, mae Natasha Asghar, llefarydd trafnidiaeth y Ceidwadwyr Cymreig, yn galw am wfftio cyflwyno rheoliadau i alluogi cynghorau “diofal” i gyflwyno’r fath fesurau.

Mae’r blaid yn rhybuddio y gallai rhoi sêl bendith yng Nghaerdydd arwain at gyflwyno’r cynlluniau mewn awdurdodau lleol eraill lle mae Llafur mewn grym, ac y gallai codi treth ar y rhai sy’n aros dros nos yn y brifddinas danseilio busnesau sy’n ddibynnol ar y sector twristiaeth er mwyn goroesi.

‘Rhy barod i saethu’

“Dylai pobol fod yn ymwybodol fod Llafur yn ‘rhy barod i saethu’ pan ddaw i gyflwyno trethi heb unrhyw syniad na phryder ynghylch sut y bydd yn effeithio ar ardaloedd sy’n eu gweithredu nhw,” meddai Natasha Asghar.

“Yn y Llywodraeth Lafur – ochr yn ochr â’u cyfeillion ym Mhlaid Cymru – rydym yn gweld pobol sydd eisiau treth dwristiaeth economaidd anllythrennog sy’n cosbi cymunedau gwledig sy’n gweithio’n galed, a nawr rydym yn gweld cynghorau Llafur sy’n benderfynol o godi biliau cymudwyr.

“Rwy’n croesawu cynlluniau sy’n gwella amodau a darpariaeth trafnidiaeth cyhoeddus, ond dw i ddim yn deall penderfyniad Llafur i gosbi gyrwyr pan mai dyna’r dewis gorau iddyn nhw o hyd.”

Cafodd eu sylwadau eu hategu gan Andrew RT Davies.

“Byddai costau tagfeydd yng Nghaerdydd yn niweidio’r sawl sy’n gorfod cymudo i’r ddinas,” meddai.

“Byddai hefyd yn gyrru i ffwrdd y rhai sy’n ymweld â’r ddinas ac sy’n rhoi arian i’r economi leol.

“Mae pobol ledled Cymru a’r byd yn teimlo cost fyd-eang y pwysau o fyw.”