Mae Sioned Williams, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Orllewin De Cymru, wedi ychwanegu ei llais at y rhai sy’n galw am gwest llawn i Drychineb Glofa’r Gleision yn 2011.
Bu farw pedwar o ddynion – Charles Breslin (62), David Powell (50), Phillip Hill (44) a Garry Jenkins (39) – yn dilyn y trychineb wrth iddyn nhw wneud eu gwaith ar y safle yng Nghilybebyll ar Fedi 15, 2011.
Cafodd llythyr ei gyflwyno i swyddfa Crwner Abertawe a Chastell-nedd ddoe (dydd Iau, Ebrill 21), a hwnnw wedi’i lofnodi gan y teuluoedd, perchnogion glofeydd a chynrychiolwyr cymunedol, ac fe ymunodd Sioned Williams â nhw mewn protest y tu allan i’r swyddfa.
Daw’r galwadau am gwest llawn ar ôl i gwestiynau newydd godi mewn adroddiad gan arbenigwyr yn y diwydiant glo, a hwnnw’n awgrymu y gallai blynyddoedd o fethiannau honedig gan y cyrff rheoleiddio – y Gweithgor Iechyd a Diogelwch a’r Awdurdod Glo – i orfodi’r rheoliadau fod wedi arwain at weithredwyr yn gweithio glo yn anghyfreithlon heb ei gofnodi ar y cynlluniau mwyngloddio dros sawl blwyddyn.
Cafodd cwest cyhoeddus llawn ei agor a’i ohirio’n wreiddiol yn 2013.
Beth ddigwyddodd?
Arweiniodd ffrwydrad yng nglofa’r Gleision ger Pontardawe at filoedd o alwyni o ddŵr yn gorlifo i’r twnnel lle’r oedd saith o weithwyr.
Llwyddodd tri i ddianc i ddiogelwch, ond roedd pedwar yn dal yn gaeth dan ddaear a daeth cadarnhad y diwrnod canlynol eu bod nhw wedi marw.
Cafodd ymchwiliad ei gynnal wedyn, a chafodd rheolwr y safle a chwmni MNS Mining eu cyhuddo o ddynladdiad, ond cafwyd nhw’n ddieuog o bob cyhuddiad yn y pen draw.
Ond mae cwestiynau o hyd ynghylch gweithrediad y pwll glo dros gyfnod o rai blynyddoedd ac ynghylch yr hyn oedd wedi achosi’r trychineb.
Nododd ymchwiliad annibynnol nifer o faterion pwysig oedd heb gael sylw cyn hynny.
“Mae dros ddeng mlynedd ers i’r dyfroedd orlifo Glofa’r Gleision ac ers i bedwar dyn golli eu bywydau yn drasig,” meddai Sioned Williams.
“Mae’n glir bod y teuluoedd a gollodd anwyliaid, y rhai sydd wedi bod yn ymchwilio i amgylchiadau trychineb Glofa’r Gleision, a chynrychiolwyr y gymuned yn teimlo’n gryf bod angen cynnal cwest llawn i farwolaethau y pedwar dyn a gollodd eu bywydau.
“Rwy’n credu bod angen i’r Crwner barchu a chydnabod hynny drwy wireddu eu dymuniad.
“Mae cwestiynau newydd dilys a phwysig wedi cael eu codi am yr hyn arweiniodd at yr hyn a ddigwyddodd yn y Lofa, cwestiynau y gallai cwest eu hystyried er mwyn deall a oedd hon yn drasiedi yr oedd modd ei hatal.
“Mae’r teuluoedd yn enwedig, a’r gymuned yn ehangach, yn haeddu atebion i’r cwestiynau yma, wedi iddynt ddioddef y fath golled.
“Mae’n glir bod angen cwest llawn.”