Ni fydd angen i ysgolion Cymru ddefnyddio’r fframwaith i benderfynu ar fesurau i atal lledaeniad Covid-19 o Mai 9 ymlaen.

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg Llywodraeth Cymru, Jeremy Miles, wedi cyhoeddi y bydd mesurau Covid-19 ar gyfer ysgolion yn cael eu cysoni â’r canllawiau ar gyfer busnesau a sefydliadau eraill.

Ers mis Medi’r llynedd, mae ysgolion wedi bod yn rhoi mesurau ar waith i atal y lledaeniad yn unol ag amgylchiadau lleol ac ar sail y Fframwaith penderfyniadau rheoli heintiadau Covid-19 lleol ar gyfer ysgolion.

Mae’r penderfyniad i beidio â defnyddio’r fframwaith honno yn unol â ‘Chynllun pontio Covid-19 hirdymor o bandemig i endemig’ Llywodraeth Cymru.

Yn ôl y cynllun, mae’r risgiau sy’n gysylltiedig â coronafeirws bellach yn cael eu hystyried yn yr un cyd-destun â’r risg gan glefydau trosglwyddadwy eraill fel y ffliw.

Bydd y cyfyngiadau eraill sydd dal mewn grym, fel yr angen i wisgo mwgwd mewn lleoliadau iechyd a gofal, yn cael eu dileu ar Mai 9 hefyd os bydd y sefyllfa o ran iechyd y cyhoedd yn parhau’n sefydlog, meddai’r Prif Weinidog Mark Drakeford.

‘O bandemig i endemig’

Fe fydd ysgolion a lleoliadau addysg yn cael eu cynghori o hyd i weithio gydag awdurdodau lleol a chynghorwyr iechyd cyhoeddus i sicrhau bod eu mesurau dal yn briodol ac yn gymesur, ac yn adlewyrchu risgiau ac amgylchiadau lleol.

Fe fydd ysgolion arbennig yn parhau i ddilyn y cyngor i blant a phobol ifanc sy’n wynebu mwy o risg glinigol ac oedolion sy’n eithriadol o agored i niwed, hefyd.

Wrth siarad yn ystod cynhadledd i’r wasg Llywodraeth Cymru, dywedodd Jeremy Miles, eu bod nhw wedi ysgrifennu at benaethiaid ysgolion heddiw (Mai 3) i dynnu sylw at y newidiadau “sy’n adlewyrchu’r newid o bandemig i endemig”.

“Drwy hyn, gwneir yn siŵr bod canllawiau i ysgolion yn fwy cyson â gweddill y gymdeithas,” meddai.

“Mae pawb yn gwybod nad yw Covid-19 wedi diflannu.

“Mae’n hollbwysig o hyd ein bod yn lleihau lledaeniad y feirws lle y bo’n bosibl – gan gynnwys, er enghraifft, dilyn canllawiau o ran hunanynysu, a sicrhau bod lleoliadau addysg yn parhau i gynnal asesiadau risg cadarn.”