Gall bachgen yn ei arddegau sydd wrth ei fodd â cherddoriaeth glywed ei hoff ganeuon yn glir am y tro cyntaf diolch i’r dechnoleg ddiweddaraf.
Wedi’i eni’n holl fyddar, Gethin Davies yw’r person cyntaf ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe i gael gosod un o’r cymhorthion clyw diweddaraf.
Mae posib ffrydio yn ddiwifr o ffôn neu ddyfais Bluetooth i’r Danalogic Ambio Smart, sy’n cael ei dreialu gan Gethin Davies ar hyn o bryd.
Golyga’r teclyn bod y bachgen 15 oed bellach yn gallu clywed cerddoriaeth yn llawer cliriach ac yn gallu ateb galwadau ffôn.
Rheolir y teclyn drwy ap, sy’n ei alluogi i addasu eglurder lleferydd, sŵn a chyfeiriadedd hefyd, gan helpu Gethin Davies i ganolbwyntio ar sain benodol heb gael ei dorri i ffwrdd oddi wrth synau eraill o’i amgylch.
‘Anhygoel’
Mae’r teclyn newydd yn gwneud hi’n haws i Gethin Davies gymryd rhan mewn chwaraeon hefyd, gan eu bod nhw’n lleihau’r risg o leithder yn effeithio ar ei ddyfeisiadau clyw.
Ar ôl gwisgo dyfeisiadau clyw ers pan oedd yn 11 wythnos oed, mae’r dechnoleg newydd wedi rhoi mwy o annibyniaeth iddo.
“Rwy’n falch iawn o fod y person cyntaf i gael y cymhorthion clyw newydd hyn,” meddai Gethin Davies.
“Roeddwn i’n arfer ei chael hi’n anodd clywed sgyrsiau mewn amgylcheddau prysur fel yr ystafell fwyta, y maes chwarae ac yn ystod chwaraeon, lle mae pobol yn symud o gwmpas.
“Rwyf wedi addasu i hyn dros y blynyddoedd ond yn fwy diweddar canfûm fod defnyddio ffôn symudol a gwrando ar gerddoriaeth yn llawer anoddach gan ei bod yn cymryd amser i ddod o hyd i glustffonau a fyddai’n mynd dros fy nghymhorthion clyw heb achosi llawer o adborth.
“Byddwn i’n ceisio osgoi siarad ar y ffôn heblaw defnyddio Facetime a byddai’n well gen i anfon neges destun.
“Ond sylwais pan oeddwn yn cystadlu mewn chwaraeon, roedd adran batri fy nghymhorthion yn mynd yn llaith o chwys.
“Byddai hyn weithiau’n arwain at ddiffodd y ddyfais, sydd yn amlwg ddim yn wych ac yn effeithio’n fawr ar fy mwynhad ohoni.”
Mae’r cymhorthion newydd yn golygu bod Gethin Davies yn cael mwy o fwynhad o chwaraeon a cherddoriaeth, yn arbennig.
“Maen nhw’n anhygoel a dw i wrth fy modd yn gallu clywed y cantorion ac nid y bas yn unig pan dw i’n chwarae cerddoriaeth,” meddai.
“Mae’r cymhorthion hyn yn gallu gwrthsefyll dŵr yn well a dydw i ddim wedi cael unrhyw broblemau gyda nhw’n diffodd yn ystod chwaraeon.”
‘Gwella’n gyson’
Mae technoleg cymorth clyw yn gwella’n gyson o ran ansawdd sain ac o ran gwneud hi’n haws i’w defnyddio gyda dyfeisiadau technolegol eraill, meddai Sarah Theobald o adran awdioleg Bae Abertawe.
“Bydd clywed trwy gymorth clyw bob amser yn wynebu ei heriau ond mae pob cenhedlaeth o gymhorthion clyw yn darparu rhywfaint o fudd dros yr olaf, felly mae’n wych gallu darparu’r gwelliannau hyn i’n cleifion pan fydd angen uwchraddio cymorth clyw arnynt.”