Mae ymgynghorydd addysg yn dweud bod angen gwneud mwy o waith i recriwtio athrawon du, Asiaidd ac ethnig lleiafrifol.
“Mae gan nifer ohonyn nhw y sgiliau ond dydyn nhw ddim yn cael eu penodi ar gyfer y swyddi strategol hyn,” meddai Abu-Bakr Madden Al-Shabazz.
“Dw i wedi bod yn gweithio yn y system addysg ers 30 mlynedd, a dw i erioed wedi cael swydd llawn amser mewn unrhyw ysgol.
“Fyswn i wedi gallu rhoi’r gorau ar addysg ers amser maith, ond roeddwn i’n credu bod angen imi addysg yn y system er mwyn trio newid pethau.
“Be dw i wedi’i ddarganfod gan nifer o ddisgyblion yw bod athrawon du a brown yn fwy cysylltiedig, mae’n ymddangos, â’u diwylliant nag athrawon dosbarth canol gwyn.
“Mae disgyblion hyd yn oed yn galw am fwy o athrawon o gefndiroedd lleiafrifol yn eu hysgolion, felly mae hyn yn rhywbeth y mae nifer o’r disgyblion eisiau ei weld.
“Mae diwylliant ieuenctid mainstream yn dod o’r profiad hanesyddol du fel reggae o’r Carribbean, R&B o Unol Daleithiau’r America.”
Cwricwlwm Newydd
Mae Abu-Bakr Madden Al-Shabazz yn rhan o’r gweithgor fu’n adolygu’r adnoddau dysgu yn y cwricwlwm newydd sy’n ymwneud â Chymunedau, Cyfraniadau a Chynefin pobol ddu, Asiaidd ac ethnig lleiafrifol.
Bydd hanes pobol ddu, Asiaidd, ac ethnig lleiafrifol yn cael ei ddysgu fel rhan o’r Cwricwlwm Newydd i Gymru, ond mae mwy o waith i’w wneud er mwyn mynd i’r afael ag anffafriaeth hiliol, meddai Abu-Bakr wrth golwg360.
Mae angen i’r system addysg siarad â chymunedau sy’n fwy tebygol o gael eu heffeithio gan dermau neu eiriau difrïol mewn nofelau, meddai.
“Y ffaith yw, cyn eu bod nhw’n gwneud unrhyw benderfyniadau strategol ynghylch pa ddeunyddiau llenyddol fydd yn y cwricwlwm, mae angen iddyn nhw siarad â’r cymunedau sydd am gael eu heffeithio fwyaf gan dermau, eiriau neu eiriau difrïol sy’n mynd i amharu ar eu capasiti i ddysgu.”
Poeni am ddiarddel plant
Bu Abu-Bakr yn astudio lefelau diarddel disgyblion du, Asiaidd a grwpiau ethnig lleiafrifol o ysgolion Cymru, ac mae mynd i’r afael â hynny’n elfen arall y mae angen ei hystyried, meddai.
“Beth rydyn ni wedi’i ddarganfod, yn anffodus, yw bod nifer ohonyn nhw ddim yn derbyn addysg atodol unwaith iddyn nhw gael eu diarddel o’r ysgol.
“Maen nhw’n llythrennol yn cael eu gadael heb unrhyw obeithion addysgol unwaith maen nhw’n cael eu diarddel o’r ysgol.
“Mae ysgolion dal i gael eu hariannu ac maen nhw yn dal i gael cofrestru’r person mewn fel eu bod nhw wedi bod yn bresennol er eu bod nhw ddim, a dydy rhai ohonyn nhw ddim hyd yn oed yn derbyn addysg ychwanegol.”
‘Ehangu cynrychiolaeth yn y gweithlu’
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod gwaith ar y gweill i ehangu cynrychiolaeth yn y gweithlu addysg.
“Cymru yw’r unig wlad yn y Deyrnas Unedig i gynnwys dysgu am brofiadau pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig fel un o ofynion gorfodol ein cwricwlwm newydd, a fydd yn dechrau cael ei gyflwyno o fis Medi ymlaen, a bydd yn helpu i sicrhau bod pobl ifanc yn datblygu dealltwriaeth o hunaniaeth eu hunain a phobl eraill,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.
“O fewn y Cwricwlwm i Gymru, dylid cyflwyno dysgwyr i lenyddiaeth sy’n adlewyrchu amrywiaeth a diwylliannau yn yr ardal, Cymru yn ogystal â’r byd ehangach.
“Mae ein Cynllun Recriwtio Pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig ar gyfer Addysg Gychwynnol i Athrawon yn nodi cyfres o gamau gweithredu ar gyfer Llywodraeth Cymru a’n partneriaid sydd â’r nod o gynyddu nifer y recriwtiaid i Addysg Gychwynnol Athrawon o gymunedau lleiafrifoedd ethnig.
“Y cynllun hwn yw cam cyntaf ein gwaith i ehangu cynrychiolaeth yn y gweithlu addysg er mwyn adlewyrchu’n fwy cyfartal y cymunedau amrywiol sy’n byw ac yn dysgu yng Nghymru. Bydd cymhellion ariannol ychwanegol hefyd yn cael eu cyflwyno i ddenu mwy o fyfyrwyr o leiafrifoedd ethnig o eleni ymlaen.
“Fel y nodir yng Nghynllun Gweithredu Cymru Gwrth-Hiliol, byddwn yn cryfhau ein canllawiau ar Wahardd o Ysgolion ac Unedau Cyfeirio Disgyblion mewn perthynas â dysgwyr yr ydym yn ymwybodol y gallant fod yn anghymesur o agored i waharddiadau parhaol neu dros dro; mae hyn yn cynnwys, ond nid yw’n gyfyngedig i ddysgwyr o leiafrifoedd ethnig a dysgwyr ag anghenion addysgol arbennig.”