Mae siopau sglodion yn gorfod cwtogi eu horiau agor a chodi prisiau oherwydd cynnydd mewn costau, meddai perchnogion busnesau wrth golwg360.

Yn sgil cynnydd mewn costau nwy a thrydan, bwyd, ac olew, mae un siop sglodion ym Mlaenau Ffestiniog wedi penderfynu cau dros ddau amser cinio gan eu bod nhw’n gwneud colled yn ystod yr oriau hynny.

Mae’r rhyfel yn Wcráin wedi golygu bod prisiau tatws, olew, pysgod, a chytew wedi codi, ac mae hi’n sefyllfa “bryderus”, yn ôl perchnogion siopau.

Fe wnaeth llywydd Ffederasiwn Cenedlaethol y Ffrïwr Pysgod rybuddio ychydig wythnosau yn ôl y gallai’r cynnydd mewn prisiau olygu y bydd rhaid i draean o siopau sglodion y Deyrnas Unedig gau o fewn hanner blwyddyn.

‘Sefyllfa drist’

Dywedodd Trisha Jones, perchennog Trish & Chips ym Mlaenau Ffestiniog, eu bod nhw wedi penderfynu cau amser cinio dydd Mawrth a dydd Mercher gan ei bod hi’n costio mwy iddyn nhw agor nag y maen nhw’n ei wneud mewn elw.

“Erbyn dw i wedi talu staff, talu fy hun i fod yma, a chost trydan a nwy rydyn ni wedi penderfynu cau,” meddai Trisha Jones.

“Rydyn ni’n rhedeg ar golled.

“Mae’r nwy wedi dyblu, mae trydan ddwywaith a hanner faint oedd o, chwe mis yn ôl roedd olew ar gyfer ffrio yn £10.50 y bloc ond nawr mae’n £24.

“Roedd pysgod yn £130 am ddau focs, nawr mae’n £250. Mae pys wedi mynd fyny £30 y bag. Mae popeth wedi cynyddu i’r entrychion.

Siop Trish & Chips ym Mlaenau Ffestiniog

“Maen nhw’n dweud bod yna lot o siopau sglodion am gau oherwydd prisiau popeth, a does yna ddim arwydd bod hynny am ostwng.”

Mae Trisha Jones yn berchen wedi bod yn rhedeg y siop ym Mlaenau Ffestiniog ers pymtheg mlynedd a dydy hi erioed wedi gweld dim byd fel hyn.

Mae hi’n sefyllfa drist, meddai Trisha Jones, sy’n cyflogi wyth o bobol.

“Roedd gen i ferch yn gweithio llawn amser, a dw i wedi gorfod stopio gwneud hynny. Mae hi’n dechrau rhentu tŷ gyda’i chariad rŵan, a dw i’n teimlo’n ofnadwy.”

‘Cwsmeriaid yn cwyno’

Er mwyn trio ymdopi â’r cynnydd mewn costau, mae’r siop wedi codi prisiau i gwsmeriaid.

“Rydych chi’n cael cwsmeriaid yn cwyno. Cefais i gwsmer yn dod yma’r diwrnod o’r blaen, ac roedd un o’r merched ar y til ac roedd o’n dweud ‘Dw i ddim yn talu hynna’… Rydych chi’n cael lot o abuse.”

Yn ddiweddar, fe wnaeth Trisha Jones fuddsoddi er mwyn adnewyddu’r siop a phrynu offer a pheiriannau newydd.

“Petawn ni’n gwybod bod hyn am ddigwydd fyswn i heb adnewyddu’r lle, fyswn i wedi cadw’r arian yn y banc er mwyn gwneud yn siŵr bod gen i ddigon i fynd â fi drwy’r gaeaf.”

Byddai Trisha Jones yn hoffi gweld mwy o help gyda chostau trydan a nwy, neu ostyngiad i’r dreth ar werth.

“Petaen nhw’n rhoi TAW lawr i 5% i fusnesau bach eto, dw i’n meddwl y bysa hi’n bosib ymdopi [â’r cynnydd].

“Ond rydyn ni wedi dod allan o bandemig, a dod syth yn ôl mewn i TAW 20%. Dydyn ni heb gael amser i adfer wedi’r pandemig. Does yna ddim gobaith.

“Mae’n drist, dw i ddim eisiau i Blaenau golli’i siop sglodion.”

‘Gorfod bod yn ofalus’

Cynnydd mewn prisiau bwyd ac olew sy’n pryderu Nick Garbott, perchennog siop sglodion a physgod Castle yng Nghriccieth.

“Mae prisiau’n codi bob wythnos. Dw i newydd gael hike arall ar y cywion ieir yr wythnos yma, dw i’n meddwl fy mod i’n cael 36 mewn bocs ac mae’r bocs newydd godi £4 yr wythnos yma,” meddai Nick Garbott wrth golwg360.

“Dw i jyst yn stocio fyny ar fwyd ar y funud, [cadw] pethau yn y rhewgell am ryw dair, bedair wythnos i drio cloi’r pris yna [i gwsmeriaid] am ychydig o wythnosau.

“Mae gen i walk-in freezer a fedra i brynu llwyth o stwff ar y tro, ar ôl i’r stoc fynd dyna pryd fydda i’n gorfod penderfynu be i’w wneud wedyn.”

“Mae [pris] yr olew wedi dyblu. Roeddwn i’n talu ryw £10, £12 am floc o 12.5kg o vegetable oil, mae o tua £20 rŵan.

“Rydyn ni’n gorfod bod yn ofalus.”

Ail-edrych ar y cynnyrch

Mae’r siop wedi gorfod codi prisiau i gwsmeriaid er mwyn ceisio ymdopi hefyd, ac mae Nick Garbott yn ystyried addasu’r math o bysgod y maen nhw’n ei werthu.

“Gan fod prisiau’n dal i godi bydd rhaid i fi ddod lawr maint mewn pysgod dw i’n meddwl i’w wneud o’n fwy cost effective i’r cwsmeriaid,” eglura.

Mae Nick Garbott wedi sylweddoli bod yna fwy o bobol yn prynu pysgod bach ar y funud, ac os bydd hynny’n parhau mae’n debygol y bydd yn stopio gwerthu pysgod mawr er mwyn i’r bwyd fod yn rhatach i gwsmeriaid.

Cafodd prisiau nwy a thrydan y busnes eu gosod llynedd, felly dydy hynny ddim gymaint o bryder iddyn nhw, meddai Nick Garbott.

“Rydyn ni’n cau am y gaeaf, so os wnâi wneud hi at ddiwedd gwyliau haf a chymryd hi o fan honno, gweld be fedra i wneud.”