Mae Plaid Cymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru i addo y bydd teuluoedd sydd wedi colli anwyliaid yn sgil Covid-19 yng Nghymru yn cael yr un atebion â theuluoedd yn Lloegr.
Yr wythnos ddiwethaf, fe wnaeth yr Uchel Lys ddyfarnu bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi ymddwyn yn anghyfreithiol wrth ryddhau cleifion heb eu profi o ysbytai i gartrefi gofal ar ddechrau’r pandemig yn Lloegr.
Mae angen cynnal dadansoddiad yr un mor “fforensig a manwl” yng Nghymru, meddai Adam Price, arweinydd Plaid Cymru.
Ond yn ôl Adam Price, dylai teuluoedd sy’n galaru allu cael atebion i’w cwestiynau heb orfod dechrau her gyfreithiol.
Yn ystod dechrau’r pandemig, polisi Llywodraeth Cymru oedd gwrthod profion Covid i gartrefi gofal lle nad oedd gan breswylwyr symptomau coronafeirws.
Doedd hi ddim yn ofynnol dan bolisi Llywodraeth Cymru i brofi pawb oedd yn cael eu symud o ysbytai i gartrefi gofal chwaith.
‘Dadansoddiad fforensig a manwl’
Yn ystod Cwestiynau’r Prif Weinidog heddiw (Mai 3), gofynnodd Adam Price a oes posib bod yn siŵr bod yr un lefel o ffocws am gael ei roi ar benderfyniadau gafodd eu gwneud yng Nghymru mewn ymchwiliad fydd yn ystyried yr holl Deyrnas Unedig.
“Prif gwestiwn y mater yma yw a fydd termau ymchwiliad y Deyrnas Unedig yn cynnwys ateb cwestiynau ynghylch a oedd y polisi o ran rhyddhau cleifion i gartrefi gofal yng Nghymru yn gyfreithlon,” meddai Adam Price.
“Mae’r Prif Weinidog yn cydnabod lefel y dadansoddiad a’r dystiolaeth ddiflino y mae teuluoedd yn Lloegr wedi’i derbyn drwy’r Uchel Lys wrth iddyn nhw ystyried y cwestiwn hwnnw.
“Rhaid i Lywodraeth Cymru addo y bydd teuluoedd sy’n galaru yng Nghymru yn cael dadansoddiad fforensig a manwl ar yr un lefel.
“Os ddim, yna’r unig opsiwn fydd ar gael i deuluoedd sy’n galaru fydd dechrau her gyfreithiol.
“Mae teuluoedd sy’n galaru yng Nghymru yn haeddu’r math o sicrwydd sydd wedi’i roi gan yr Uchel Lys yn Lloegr.”
‘Haeddu atebion’
Fe wnaeth arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, gwestiynu Mark Drakeford ar y mater yn y Senedd.
Gofynnodd hefyd pam na wnaeth Cymru ddechrau profi’n eang am bythefnos ar ôl Lloegr.
“Fe wnaeth eich gweinidog iechyd ar y pryd ddweud nad oedd yn deall y rhesymeg [tu ôl i brofi cleifion oedd yn cael eu symud o ysbytai i gartrefi gofal],” meddai Andrew RT Davies.
“Er syndod, dywedodd yr un gweinidog na fyddai’n profi cleifion oedd yn cael eu symud o ysbytai i gartrefi gofal hyd yn oed petai capasiti profi deirgwaith yn uwch yma yng Nghymru.
“Mae angen dysgu gwersi ac mae teuluoedd gollodd anwyliaid drwy gydol y pandemig yn haeddu atebion, a dim ond ymchwiliad penodol ar gyfer Cymru fydd yn caniatáu hynny ond mae Llafur yn parhau i’w rwystro,” meddai Andrew RT Davies.
Ymchwiliad dros yr holl Deyrnas Unedig
Wrth ymateb i gwestiynau ar y pwnc, dywedodd Mark Drakeford y bydd yn rhaid i benderfyniadau i anfon cleifion heb eu profi o ysbytai i gartrefi gofal gael eu harchwilio gan yr ymchwiliad Covid ar gyfer yr holl Deyrnas Unedig.
Yn ôl Mark Drakeford, dilynodd gweinidogion Cymru’r un cyngor â Llywodraeth y Deyrnas Unedig.
“Ni allwch ddeall y penderfyniadau a wnaed yng Nghymru drwy wahanu’r penderfyniadau hynny o gyd-destun y Deyrnas Unedig, cyngor y Deyrnas Unedig, lefel dealltwriaeth y Deyrnas Unedig ar y pryd a’r ffordd yr oedd hynny ar gael yma yng Nghymru.”
Bydd Llywodraeth Cymru yn cymryd rhan yn ymchwiliad y Farwnes Hallet i Covid dros y Deyrnas Unedig “yn y ffordd fwyaf agored y gallwn”.
Bydd angen iddo “archwilio’r pwynt y daeth yn amlwg bod coronafeirws yn glefyd a allai gael ei ledaenu gan unigolion asymptomatig”, meddai.