Bydd mam bachgen dyflwydd o Ben-y-bont ar Ogwr yn gorfod treulio cyfnod yn yr ysbyty dan y Ddeddf Iechyd Meddwl am ladd ei mab.
Bu farw Reid Steele yn Ysbyty Prifysgol Cymru yng Nghaerdydd ar Awst 12 2021 ar ôl cael ei ganfod ag anafiadau difrifol mewn tŷ ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Fe wnaeth Natalie Steele, 32, o Broadlands bledio’n euog i ddynladdiad ar sail cyfrifoldeb lleiedig fis Chwefror gan wadu llofruddio ei mab.
Dywedodd yr erlynydd wrth Lys y Goron Caerdydd fod y ple’n un derbyniol ar ôl i’r Goron dderbyn adroddiadau ynghylch iechyd meddwl Natalie Steele gan ddau seiciatrydd.
Ymddangosodd Natalie Steele yn Llys y Goron Caerdydd heddiw (Mai 3) dros gysylltiad fideo, a chafodd y penderfyniad y Barnwr Michael Fitton ei gyhoeddi.
Clywodd y llys ei bod hi’n dioddef o seicosys ac iselder seicotig, ac wedi bod yn sôn am weld gweledigaethau o’r diafol ac angylion, ac yn credu bod aelodau o’i theulu yn mynd i niweidio hi a’i mab.
Mewn datganiad dywedodd teulu Reid Steele bod eu bywydau wedi newid am byth.
“Bydd yna wastad ran o’n teulu ar goll. Reid oedd y bachgen bach mwyaf cariadus, hyfryd, doniol, a deallus, a oedd yn cyffwrdd calonnau pawb oedd yn ei gyfarfod,” meddai’r teulu.
“Roedd Natalie wirioneddol yn fam hyfryd.
“Cafodd fywyd braf a oedd yn llawn gwyliau ac anturiaethau llawn hwyl yn casglu cregyn a cherrig oddi ar y traeth gyda Natalie.
“Roedd yn treulio gymaint o amser gyda’i deulu a oedd yn ei garu’n fawr iawn.
“Ni all y boen o golli Reid fyth gael ei gyfleu’n iawn mewn geiriau.
“Fel teulu rydyn ni’n cytuno’n unfrydol bod penderfyniad y Barnwr heddiw yn un cywir. Bydd Natalie’n parhau i gael y driniaeth y mae hi ei angen, i wella, mewn amser, gobeithio.
“Gall cyflyrau iechyd meddwl fod yn gymhleth a brawychus, ac yn fwyaf pwysig, yn anweledig nes y mae hi’n rhy hwyr.
“Ond mae yna help allan yma. Plîs peidiwch â bod ofn gofyn am help.”