Ar drothwy’r etholiadau lleol fory (dydd Iau, Mai 5), mae Adam Price yn galw am gefnogaeth i Blaid Cymru “fel y gall barhau i wneud gwahaniaeth cadarnhaol mewn cymunedau ledled y wlad”.
Mae Plaid Cymru’n arwain pedwar Cyngor Sir ar hyn o bryd – Ynys Môn, Ceredigion, Sir Gaerfyrddin a Gwynedd.
Yn ôl Adam Price, mae cynghorau dan arweiniad Plaid Cymru’n “dda i’r gymuned leol, yr economi a’r amgylchedd”, ac mae’n dweud bod ganddyn nhw hanes o “ddiogelu swyddi, cefnogi ysgolion a busnesau drwy’r pandemig, a chymryd camau i fynd i’r afael â’r argyfwng tai” sy’n “siarad drosto’i hun”.
Mae’n galw ar bleidleiswyr sydd wedi’u dadrithio â Llafur a’r Ceidwadwyr i “ddewis newid”.
‘O Gaernarfon i Gaerfyrddin’
“Mae ymgeiswyr Plaid Cymru wedi gweithio’n ddiflino dros yr wythnosau diwethaf i fynd â’n neges gadarnhaol i gymunedau ym mhob rhan o Gymru,” meddai Adam Price.
“O Gaernarfon i Gaerfyrddin, mae record cynghorau sy’n cael eu rhedeg gan y Blaid yn siarad drostynt eu hunain.
“Mae cael cynrychiolaeth Plaid yn dda i’r economi leol, y gymuned a’r amgylchedd.
“Drwy gydol y pandemig, cymerodd cynghorau dan arweiniad y Blaid gamau cyflym i ddiogelu swyddi lleol a chefnogi ysgolion a busnesau yn ystod un o’r adegau anoddaf y gall unrhyw un ohonom ei gofio.
“Ar lefel genedlaethol hefyd, mae’r Blaid yn cyflawni dros gymunedau ledled y wlad drwy sicrhau prydau ysgol am ddim i bob disgybl cynradd fel rhan o’n Cytundeb Cydweithio gyda Llywodraeth Cymru.
“Mae pleidlais dros Blaid Cymru ddydd Iau yn bleidlais i fynd â hyn ymhellach.
“Mae cynghorau sy’n cael eu rhedeg gan Blaid Cymru wedi ymrwymo i’r nod o ymestyn prydau ysgol am ddim i bob disgybl ysgol uwchradd, gan helpu i fynd i’r afael â thlodi ac anghydraddoldeb.
“Mae cymunedau Cymru yn gryfach gyda phencampwyr Plaid Cymru yn ymladd eu cornel.
“Os ydych wedi cael llond bol ar wasanaethau lleol annigonol, os ydych wedi cael eich siomi gan Lafur a’r Torïaid, dewiswch newid yn y blwch pleidleisio.
“Pleidleisiwch dros Blaid Cymru fel y gallwn barhau i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau mwy o bobl mewn mwy o gymunedau ledled Cymru.”