Mae Mick Antoniw, Cwnsler Cyffredinol Cymru a Gweinidog y Cyfansoddiad, yn cyhuddo Llywodraeth y Deyrnas Unedig o “danseilio ein holl hawliau dynol sylfaenol”.

Daw hyn wrth i San Steffan gyflwyno’r Ddeddf Cenedligrwydd a Ffiniau.

Mae’r ddeddf wedi cael ei disgrifio gan y Gymdeithas Gyfreithiol fel “anghydnaws â chyfraith ryngwladol, niweidiol i fynediad at gyfiawnder, ac yn debygol o gael effaith negyddol ar rôl cyfreithwyr mewn achosion mewnfudo”.

Ac yn ôl Llywodraeth Cymru, gyda chefnogaeth Plaid Cymru a Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, mae’n anghyfansoddiadol ac yn gwbl groes i werthoedd Cymru ac egwyddorion sylfaenol y Senedd.

“Ni ddylai pobl fod o dan unrhyw gamargraff, mae gweithredoedd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn dangos yn glir eu hymdrechion bwriadol i danseilio ein holl hawliau dynol sylfaenol,” meddai Mick Antoniw.

“Rydyn ni’n cyfarfod dan gysgod y rhyfel yn Wcráin, a bydden ni’n disgwyl y gallen ni sefyll yn gadarn gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar hawliau dynol ar hyn o bryd – ond dyw hynny ddim yn bosibl.

“Mae eu cynigion yn rhoi’r arwydd i’r byd fod y Deyrnas Unedig yn cefnu ar hawliau dynol. Mae eu hymdrechion yn ceisio lleihau, nid cryfhau hawliau dynol.

“Pe bai’r cynigion hyn yn cael eu dwyn i gyfraith, bydden nhw’n gwanhau hawliau holl ddinasyddion y Deyrnas Unedig.

“Bydden nhw’n lleihau mynediad at gyfiawnder ac yn targedu’r bobol hynny sydd fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas, gan gynnwys pobol ag anableddau a’r rhai sy’n byw mewn tlodi.

“Mae’r cynigion hefyd yn ceisio gwahaniaethu rhwng pobol neu achosion ‘haeddiannol’ ac ‘anhaeddiannol’, sy’n anelu ergyd at wraidd yr egwyddor y dylai fod gan bawb yr un hawliau dynol â’i gilydd.”

Ystyried Bil Hawliau i Gymru

Aeth Mick Antoniw yn ei flaen i ymrwymo i gynllun gweithredu manwl a fydd yn ystyried ymgorffori Confensiynau’r Cenhedloedd Unedig yng nghyfraith Cymru, a allai arwain o bosibl at Fil Hawliau i Gymru.

“Os bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn parhau i ddilyn y llwybr dinistriol a niweidiol hwn, hoffai Llywodraeth Cymru ystyried yr hyn a allai gael ei gyflawni drwy Fil yng Nghymru,” meddai.

“Diben Bil o’r fath fyddai cryfhau hawliau dynol a chyn belled ag y bo modd, lliniaru effeithiau negyddol camau gweithredu gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.

“Byddwn hefyd, am y tro cyntaf, yn cyhoeddi ein hymateb ein hunain i’r Cenhedloedd Unedig ar sut yr ydym wedi hyrwyddo hawliau yng Nghymru.

“Bydd hwn yn gam sylweddol ac yn dangos ein bod ni’n cymryd ein cyfrifoldebau a’n hymrwymiadau o ddifrif.”