Mae mudiad Conradh na Gaeilge wedi cyhuddo’r pleidiau unoliaethol yng Ngogledd Iwerddon o ddiffyg parch at yr iaith Wyddeleg drwy wrthod ymrwymo i chwe phrif alwad.

Daw hyn ar drothwy’r etholiadau lleol fory (dydd Iau, Mai 6), wrth i’r mudiad lansio ymgyrch #Gaelvóta ar ôl cysylltu â’r prif bleidiau ac ymgeiswyr annibynnol sawl gwaith fis diwethaf.

Fel rhan o’r ymgyrch, fe wnaethon nhw geisio sicrwydd y byddai deddfwriaeth iaith Wyddeleg yn cael ei chyflwyno, bod y Strategaeth 20 Mlynedd yn cael ei mabwysiadu, bod Bil Addysg Wyddeleg yn mynd trwy’r Cynulliad, bod cefnogaeth i gyflwyno’r Wyddeleg fel pwnc craidd ar gyfer disgyblion TGAU, a bod y pleidiau’n blaenoriaethu addysg a chymunedau.

Y chwe phlaid sydd wedi ymrwymo i’r alwad yw Aontú, Alliance, Y Blaid Werdd, SDLP, Sinn Féin a PBP, ynghyd â nifer o ymgeiswyr annibynnol, ond dydy’r DUP, yr UUP na TUV ddim wedi ymateb hyd yn hyn.

‘Cefnogaeth bleidiol eang i’r Wyddeleg’

“Fel rydyn ni wedi’i weld ers i’r ymgyrch gymunedol anhygoel tros hawliau iaith ddechrau yn 2017, mae cefnogaeth bleidiol eang i’r iaith Wyddeleg, hawliau iaith Wyddeleg a thros addysg cyfrwng Gwyddeleg,” meddai Michaeline Donnelly, Tanáiste Conradh na Gaeilge.

“Yn etholiadau’r Cynulliad yn 2017, roedd y gefnogaeth honno’n cyfateb i bum plaid a 50 allan o’r 90 o Aelodau’r Cynulliad wnaeth gefnogi cyflwyno Deddf Iaith Wyddeleg mewn modd gweithredol.

“Mae’r gynghrair drawsbleidiol honno o blaid hawliau iaith wedi aros yn gadarn ac mae’n parhau’n benderfynol ac yn gryf ar drothwy etholiadau’r Cynulliad yn 2022.

“Mae’r ymgyrch #Gaelvóta yn ceisio rhoi’r ffeithiau a’r ffigurau diweddaraf i bleidleiswyr o ran pleidiau, ymgeiswyr a’u haddewidion neu safiad ar yr iaith Wyddeleg.

“Byddwn ni’n rhannu’r ymatebion rydyn ni wedi’u derbyn, wedi’u torri i lawr fesul plaid a fesul etholaeth, gyda’r gymuned ac ar-lein drwy gydol yr wythnos.”

‘Stori ddwyochrog’

“Mae #Gaelvóta wir yn stori ddwyochrog,” meddai Conchúr Ó Muadaigh, Rheolwr Eiriolaeth Conradh na Gaeilge.

“Ar y naill law, rydym yn gweld cynghrair adeiladol, gref o bleidiau sydd wedi ymrwymo i gefnogi’r iaith Wyddeleg drwy ddeddfwriaeth, drwy strategaeth a thrwy fwy o ddarpariaeth addysg.

“Ac ar y llaw arall, mae gennym bob plaid ac ymgeisydd annibynnol Unoliaethol yn gwrthod ymateb i’n haddewidion etholiadol. Mae hynny’n destun siom eithriadol.

“Fe wnaethon ni gynnig i’r holl bleidiau hynny y cyfle i gyfarfod â’r gymuned iaith Wyddeleg i drafod y materion hyn.

“Unwaith eto, fe fu tawelwch wrth ymateb i’n gohebiaeth.

“Mae hynny’n dangos diffyg parch anhygoel i deuluoedd sy’n siarad Gwyddeleg, dysgwyr ac ysgolion iaith Wyddeleg sy’n bodoli ac sy’n llewyrchu ar draws y gymuned.

“I’r pleidiau hynny sydd wedi cefnogi ymrwymiadau iaith Wyddeleg #Gaelvóta, rydym yn diolch i chi am eich cefnogaeth barhaus ac edrychwn ymlaen at gyfarfod â chi yn yr wythnosau sydd i ddod i drafod gwireddu’r ymrwymiadau hynny ar unwaith.”