Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn galw am derfyn ar “flynyddoedd o fethiannau Llafur a Phlaid Cymru” ar drothwy’r etholiadau lleol fory (dydd Iau, Mai 5).
Grymuso cymunedau yw nod y blaid wrth i bleidleiswyr ar hyd a lled Cymru baratoi i fwrw eu pleidlais.
Yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig, mae Llafur a Phlaid Cymru’n euog o dynnu grym oddi ar bobol leol, o dangyllido awdurdodau lleol, cynyddu trethi a gadael i safon gwasanaethau ostwng.
Maen nhw’n dweud y bydden nhw’n dychwelyd grym i drigolion lleol fel bod modd iddyn nhw benderfynu sut i dyfu eu cymunedau, yn helpu busnesau i dyfu gyda mwy o swyddi i bobol leol, ac adfer balchder pobol yn eu trefi a’u phentrefi.
Prif addewidion y Ceidwadwyr Cymreig:
- Cefnogi cymunedau i warchod gwasanaethau lleol drwy Gronfa Berchnogaeth Gymunedol, gan helpu i brynu cyfleusterau sydd dan fygythiad, e.e. y siop, dafarn neu lyfrgell leol
- Cydweithio â’r heddlu ac eraill i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, gollwng sbwriel, graffiti a baw ci
- Sicrhau buddsoddiad mewn ffyrdd a phalmentydd i leihau nifer y tyllau a mannau peryglus i gerddwyr
- Cefnogi busnesau a chymunedau i wneud ardaloedd yn fwy deniadol ar gyfer buddsoddiad i helpu i greu swyddi ar gyfer pobol leol
- Grymuso cymunedau i gadw cyfleusterau hamdden ar agor er mwyn annog pobol i ofalu am eu hiechyd corfforol a meddyliol
- Sicrhau mwy o gydweithio rhwng y gwasanaethau cymdeithasol a’r Gwasanaeth Iechyd er mwyn gwarchod y bobol fwyaf bregus yn y gymuned, gan roi urddas a pharch iddyn nhw
‘Y bobol leol sy’n gwybod orau’
Yn ôl Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, mae mwy a mwy o rym wedi’i dynnu oddi ar bobol leol ers dechrau datganoli.
“Y bobol sy’n gwybod beth sydd orau i’w hardal leol yw’r bobol sy’n byw ynddyn nhw, a dyna pam mai byrdwn ein hymgyrch etholiadau lleol yw rhoi’r grym yn ôl yn eu dwylo nhw,” meddai.
“Rydyn ni eisiau gweld pobol leol yn arwain o ran ble dylid adeiladu tai a gwasanaethau newydd, a’u helpu nhw i brynu cyfleusterau cymunedol sydd mewn perygl, megis y dafarn, siop neu lyfrgell leol.
“Dim ond y Ceidwadwyr Cymreig fydd yn sefyll i fyny dros ddemocratiaeth ac yn adfer grym i gymunedau lleol.”
Yn ôl Sam Rowlands, llefarydd llywodraeth leol y blaid, mae gan bobol ddewis rhwng “adeiladu cymunedau cryfach, mwy diogel a blynyddoedd yn rhagor o fethiannau” gan Lafur a Phlaid Cymru.
“Mae ein trefi a’n pentrefi wedi cael eu hesgeuluso am yn rhy hir o lawer, a bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn gweithio’n ddiflino i wyrdroi hynny drwy adfer balchder yn ein cymunedau, yn lleihau pethau’n bla ar ein hardaloedd ac yn gosod trigolion leol wrth galon penderfyniadau,” meddai.