“Mae’r weithred o brotestio yn gynhenid i ni yng Nghymru,” yn ôl Liz Saville Roberts, sy’n dweud ei bod hi’n cefnogi gwelliant i Fil y Drefn Gyhoeddus.

Mae Bell Ribeiro-Addy, yr Aelod Seneddol Llafur, wedi cyflwyno gwelliant i’r Bil gan ddweud ei fod “yn cynnwys ambell fesur sy’n tarfu ar y cydbwysedd mae mawr ei angen rhwng rhyddid barn a gwarchod y cyhoedd”.

Byddai’r ddeddfwriaeth yn ehangu pwerau’r heddlu i atal protestiadau, yn ehangu pwerau stopio a chwilio yr heddlu os ydyn nhw’n amau rhywun o drosedd, a throseddau newydd yn ymwneud â phrotestio.

“Rwyf wedi arwyddo’r gwelliant pwysig hwn gan @BellRibeiroAddy i daflu’r Bil Trefn Gyhoeddus allan,” meddai arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan ar Twitter.

“Mae’r weithred o brotestio yn gynhenid i ni yng Nghymru – felly fe fyddwn ni yn @Plaid_Cymru yn parhau i wrthwynebu ymosodiadau di-baid Llywodraeth y DU ar ein hawliau.”