Mae cyn-Gomisiynydd Heddlu Sbaen wedi cyfaddef fod yr heddlu wedi cyflawni gweithredoedd “cwbl anghyfreithlon” er mwyn tawelu mudiad annibyniaeth Catalwnia.

Daw ei sylwadau wrth siarad â’r wefan newyddion Catalan News, lle mae’n cyfiawnhau’r gweithredoedd hynny fel rhai oedd er lles dyfodol ac undod Sbaen.

Cafodd sgyrsiau rhwng José Manuel Villarejo a Francisco Martinez, cyn-swyddog yn llywodraeth Sbaen, eu cyhoeddi gan y wasg yr wythnos hon a oedd yn awgrymu bod Sbaen wedi cynllwynio i ffugio adroddiadau newyddion ffug er mwyn pardduo’r mudiad annibyniaeth cyn etholiad yng Nghatalwnia.

Roedd pennawd yn El Mundo yn 2012, naw diwrnod cyn yr etholiad, yn awgrymu bod yr heddlu wedi cysylltu cyfrifon banc aelodau o Lywodraeth Catalwnia yn y Swistir, gan gynnwys yr Arlywydd ar y pryd Arturo Mas a’r cyn-arlywydd Jordi Pujol, gyda llygredd ariannol.

Yr adeg honno, roedd Mas wedi bod yn addo cynnal refferendwm pe bai’r pleidiau o blaid annibyniaeth yn ennill mwyafrif o seddi yng Nghatalwnia ond yn dilyn yr erthygl, fe waethygodd y rhagolygon i’r pleidiau hynny, ac fe gollodd plaid Mas 12 o seddi a cholli’r cyfle i ennill chwech arall a fyddai wedi rhoi rheolaeth lwyr i’w blaid, ac fe fu’n rhaid iddyn nhw ffurfio clymblaid.

‘Anghyfreithlon’ ond Sbaen ‘yn barod i’w wneud e eto’

Wrth siarad â TV3, y darlledwr yng Nghatalwnia, fe wnaeth José Manuel Villarejo gyfaddef fod yr hyn wnaethon nhw’n “anghyfreithlon”, ond fe ddywedodd y bydden nhw’n barod i’w “wneud e eto”.

Dywedodd fod Mariano Rajoy, prif weinidog Sbaen, wedi ei longyfarch e wedi’r etholiad a bod hynny’n golygu bod yr ymgyrch yng Nghatalwnia i bardduo’r pleidiau annibyniaeth “wedi llwyddo”, meddai.

Ac fe gyfaddefodd fod “tystiolaeth wedi cael ei haddasu” er mwyn pardduo gwleidyddion o blaid annibyniaeth.

“Fe wnaethon ni’r hyn oedd rhaid i ni ei wneud,” meddai, gan ychwanegu ei fod e wedi helpu i gydlynu’r ymgyrch, ond gan wadu mai fe oedd yn gyfrifol am y cynllwyn.

Ond fe ddywedodd fod y gwleidyddion mwyaf blaenllaw yn Llywodraeth Sbaen, gan gynnwys Rajoy, yn llwyr ymwybodol o’r cynllwyn ac yn ei gefnogi.

Hacio

Wrth drafod dulliau pardduo, dywedodd fod swyddogion wedi clustfeinio ar alwadau ffôn arweinwyr yr ymgyrch tros annibyniaeth.

Ac mae’n dweud nad oedd hynny’n gyfreithlon gan nad oedden nhw wedi ceisio caniatâd y llysoedd.

Ond mae’n dweud nad yw’n “difaru” bod hynny wedi digwydd chwaith.

Yn ddiweddar, fe ddaeth i’r amlwg fod hacio wedi digwydd rhwng 2017 a 2020 gan ddefnyddio meddalwedd ysbïo Pegasus.

Wrth ymateb i’r helynt, roedd Llywodraeth Sbaen yn mynnu bod ffonau Pedro Sanchez, y prif weinidog, a nifer o weinidogion eraill wedi cael eu hacio, er bod Catalwnia yn mynnu mai Llywodraeth Sbaen oedd yn gyfrifol.