Mae Adroddiad Blynyddol 2014/15 Llywodraeth Cymru’n dangos parhad yng nghynnydd y plant sy’n derbyn addysg Gymraeg yn 7 mlwydd oed. Ond am y tro cyntaf mae’r ganran yn is am fod nifer y cohort cyfan o blant yng Nghymru wedi tyfu yn sylweddol.
Felly aeth y canran Cymraeg i lawr i 22.2%, gan ddisgyn 0.2% o 2013. Mae’n bur eglur na fydd y nod o 25% yn cael ei gyrraedd erbyn 2015.
Mae bwlch o hyd rhwng y niferoedd sy’n derbyn addysg gynradd Gymraeg ac addysg uwchradd Gymraeg.
Dyma ganrannau a niferoedd plant 7 oed sy’n derbyn addysg Gymraeg:
2002 2014 2002 2014
Ynys Môn 77.6 72.1 570 520
Gwynedd 93.2 97.8 1249 1244
Conwy 21.5 25.1 262 284
Sir Ddinbych 21.0 24.5 233 262
Sir y Fflint 6.6 5.7 126 102
Wrecsam 9.2 12.0 138 189
Powys 14.6 19.3 222 250
Ceredigion 77.3 74.0 549 500
Sir Benfro 16.8 19.7 216 257
Sir Gaerfyrddin 54.0 55.4 1014 1097
Abertawe 8.9 14.1 224 365
Castell Nedd PT 14.1 18.7 226 279
Pen-y-bont 8.4 8.6 132 139
Bro Morgannwg 9.2 12.9 145 204
Rhondda C Taf 15.7 19.9 438 533
Merthyr Tudful 10.1 11.7 71 80
Caerdydd 9.9 15.1 358 618
Caerffili 10.5 18.9 232 388
Blaenau Gwent 3.5 5.1 31 37
Torfaen 5.0 10.2 61 109
Sir Fynwy 1.2 5.8 12 51
Casnewydd 3.0 4.5 54 79
Cymru 6569 7587
Ond dyma’r colledion mwyaf, cynradd > uwchradd
CNPT 223 73 29%
Môn 530 112 25%
Sir Gâr 934 173 18%
Gwynedd 1264 205 16%
Conwy 238 37 16%
Cymharer: Abertawe : colli bron neb
Caerffili: colli 3%
Gwent: colli 6% er bod rhaid teithio’n bell i Gwynllyw
Mae rhai datblygiadau ar y gweill. Fe fydd canlyniad agor Ysgol Gymraeg arall yn Llanelli yn amlwg cyn bo hir; bydd rhaid aros i weld canlyniad agor Ysgol Gymraeg Dinbych-y-Pysgod, ond mae’n bosibl darogan twf yn y ddwy sir.
Mae Abertawe yn dal i symud ymlaen yn sgil agor ysgolion newydd gyda 4 ffrwd ychwanegol rhwng 2002 a 2014, twf sy’n ganlyniad i waith cyson RhAG yn y ddinas. Mae angen mawr am ysgol arall yn ardal Gorseinon. Mae methiant Castell-nedd Port Talbot i agor ysgolion Cymraeg newydd a methiant i ehangu’r rhai sy’n bodoli yn broblem o hyd.
Mae Pen-y-bont a Merthyr Tudful yn parhau i wneud yn arswydus o wael er gwaethaf pwysau o gyfeiriad y rhieni.
Mae Caerffili, fodd bynnag, wedi llamu ymlaen, gyda thwf o 156. Mae eisiau ysgolion ychwanegol yn arbennig yn Rhisga a Bedwas, Tretomos a Machen ond ar y cyfan mae’r awdurdod yn ateb y galw.
Mae record Rhondda Cynon Taf yn simsan. Mae angen Ysgol Gymraeg ychwanegol yng Nghwm Cynon, un arall yn ardal Y Porth a thrydedd ar gyfer Ffynnon Taf a Nantgarw heb sôn am ehangu Castellau.
Unwaith eto mae mwy o blant Cymraeg yng Nghaerdydd nag yn y Rhondda.
Mae Caerdydd yn dal i elwa ar waith clodwiw y cyn Brif Swyddog Addysg, Mr Chris Jones. Mae’r 5 ysgol agorodd e a’r rhai a ehangwyd nawr bron yn llawn a’r awdurdod presennol yn gyndyn i ddilyn ei esiampl. Eleni bydd mynediad Caerdydd yn uwch na 700 am yr ail dro. Hefyd fe fyddai 800 wedi dod i mewn pe bai’r sir wedi darparu’r lleoedd angenrheidiol: mae sir yn cyfaddef iddynt dderbyn 805 cais am le.
Yng Ngwent does fawr o dwf ym Mlaenau Gwent na Sir Fynwy ac ni fydd twf nes yr agorir ysgol gyfleus i Dredegar lle mae galw yn bodoli ac ysgol gyfleus i Drefynwy tref arall lle mae’r galw yn bod. Mae Casnewydd yn dangos cynnydd eto. Fe ddaw rhifau gwell yn fuan o’r 3 ysgol sy eisoes yn bodoli gyda dyfodiad Ysgol Uwchradd Gymraeg yn 2016 yn ninas Casnewydd.
Yn Nyfed mae Sir Gâr yn troi cornel, sy’n bwysig o ystyried maint y sir a nifer y plant Cymraeg sy’n cael eu haddysg yno. Mae niferoedd Ceredigion yn dal i ddisgyn ac mae Sir Benfro ar i fyny unwaith eto.
Ar y cyfan mae’r adroddiad yn un i godi calon er yn dangos yn glir y mannau gwan.
Mae dyn yn gorfod gobeithio y bydd uno awdurdodau yn setlo problem Merthyr trwy ddifodiant. A fydd Abertawe yn llwyddo i lyncu Castell-nedd Port Talbot er budd addysg Gymraeg? Gyda phwy fydd Pen-y-bont yn uno? Daw Bro Morgannwg yn ôl i mewn i Gaerdydd, a all fod o fantais i addysg Gymraeg, am fod awdurdod y Fro â record da a chynlluniau clodwiw. Fe fyddai ail-uno 4 awdurdod Gwent dan arweiniad Casnewydd yn sicr o fantais i addysg Gymraeg.