Senedd Sbaen
Gallai pleidiol ymylol elwa o etholiadau yn Sbaen ddydd Sul, wrth i bleidleiswyr fynd ati i ddangos eu anfodlonrwydd ynghylch lefelau diweithdra cynyddol a nifer o achosion o lygredd ymhlith y ddwy brif blaid.

Mae disgwyl i bleidleiswyr roi ergyd i’r system wleidyddol bresennol sydd wedi gweld y ddwy brif blaid, y Blaid Boblogaidd a’r Sosialwyr, yn ennill dro ar ôl tro ers tri degawd.

Ond fe allai’r etholiad diweddaraf weld cynnydd yn y gefnogaeth i blaid Ciudadanos neu’r Podemos ar yr asgell chwith.

Mae disgwyl i’r Blaid Boblogaidd ennill yr etholiad, ond heb fwyafrif i allu ffurfio llywodraeth.

Mae’r Prif Weinidog Mariano Rajoy wedi dweud eisoes y byddai’n awyddus i ffurfio clymblaid er mwyn atal clymblaid asgell chwith rhag cipio grym.

Bydd mater annibyniaeth i Gatalwnia’n uchel ar agenda’r Prif Weinidog, ond ei blaid yntau yw’r unig un o’r pleidiau cenedlaethol sy’n gwrthwynebu cynnal trafodaethau i ddatganoli mwy o bwerau.