Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn cyhuddo Llywodraeth Cymru o ragrith wrth beidio â gweithredu i ddiogelu hen domenni glo yn y cymoedd.

Daw hyn yn sgil honiadau yr wythnos yma y gallai Llywodraeth Cymru fod wedi gwrthod cyllid atgyweirio i domen lo yn Tylorstown yn 2014 gan nad oedd ‘achos busnes’ dros ddatblygu’r tir i ddibenion proffidiol.

Dyma’r ardal lle bu tirlithriad yn dilyn llifogydd ddwy flynedd yn ôl, ac mae dadlau parhaus wedi bod rhwng llywodraethau Cymru a Phrydain ynghylch pwy ddylai dalu am glirio hen domenni glo ledled y cymoedd.

“Mae rhagrith y Llywodraeth Lafur yng Nghaerdydd yn anhygoel,” meddai Gweinidog Gwrthblaid y Ceidwadwyr Cymreig ar Newid Hinsawdd, Janet Finch Saunders.

“Unwaith eto maen nhw’n dweud un peth a gwneud yn gwbl groes i hynny, y tro yma gyda thomenni glo peryglus.

“Mae’n ymddangos eu bod wedi rhoi elw o flaen diogelu cymunedau er gwaethaf y rhethreg diweddar rydym wedi’i glywed gan weinidogion.

“Mae Llafur wedi bod mewn grym ers dau ddegawd ac wedi cael digon o gyfle i ddiogelu pobl a chymunedau trwy wneud y tomenni glo hyn yn saff, ond yn lle hynny maen nhw’n beio pobl eraill.

“Eu cyfrifoldeb nhw a neb arall yw atgyweirio’r tomenni hyn – a does dim mwy o esgusodion gan y gall bywydau fod y fantol.”

Galwadau pellach ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig am gyllid i fynd i’r afael â thomenni glo peryglus

Fe alwodd Aelod Seneddol y Rhondda, Chris Bryant, ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig am fwy o gyllid er mwyn osgoi “trychineb Aberfan arall”

 

Galw am fwy o arian i ddiogelu tomenni glo yng Nghymru

Data yn dangos fod 327 tomen lo mewn categori risg uwch, sy’n golygu bod rhaid iddyn nhw gael eu harchwilio’n fwy aml