Mae arbenigwyr wedi mynegi pryder am raddfa’r gynnydd mewn achosion amrywiolyn Omicron yng ngogledd-ddwyrain a gogledd-orllewin Lloegr.

Rhai o’r ardaloedd lle mae’r twf ar ei gyflymaf drwy’r holl Deyrnas Unedig ar hyn o bryd lle Middlesborough, lle mae’r gyfradd wedi codi o 748.8 i 2,651 o achosion i bob 100,000 o’r boblogaeth mewn wythnos, Copeland (1,731.3 i 3,525.8) a Redcar & Cleveland (846.8 i 2,564).

Er bod cyfraddau lawn mor uchel, ac uwch, yn rhai o gymoedd de Cymru, fel Blaenau Gwent (2,970.6) a Rhondda Cynon Taf (2,758.1), ni welwyd cynnydd mor ddramatig yno dros yr wythnos ddiwethaf.

Yn ôl Dr Mike Tildesley, un o’r gwyddonwyr ar y grwp Spi-M sy’n cynghori llywodraeth Prydain, daw’r pryder am ogledd Lloegr ar adeg pan fo achosion yn Llundain wedi dechrau arafu.

“Mae’r rhan fwyaf o rannau o’r wlad tua dwy i dair wythnos y tu ôl i le mae Llundain yn eu proffil o’r epidemig,” meddai.

“Pryder neilltuol yw gogledd-ddwyrain a gogledd-orllewin Lloegr lle mae mwy o bobl yn mynd i’r ysbyty.

“Ar y llaw arall, mae’r arosiadau yn yn ysbyty yn ymddangos fel pe baen nhw’n fyrrach ar gyfartaledd, sy’n newyddion da, ac mae’r symptomau’n ymddangos fel pe baen nhw ychydig yn llai llym.

“Mae’n bosibl mai Omicron yw’r pelydryn cyntaf o oleuni sy’n awgrymu y gall Covid-19 ddod yn endemig a haws i fyw ag ef, fel annwyd, yn yr hirdymor.”

Yn ôl y ffigurau diweddaraf sydd ar gael, roedd cyfanswm o 18,454 o gleifion gyda Covid-19 mewn ysbytai yn y Deyrnas Unedig ddydd Iau (Ionawr 6). Mae hyn 40% i fyny ar yr wythnos ddiwethaf, a’r nifer uchaf ers 18 Chwefror 2021.

Er hyn, mae’n llawer llai na’r hyn oedd ar frig ail don y coronafeirws o 39,254 o gleifion ar 18 Ionawr y llynedd.