Mae chwech o rybuddion gwyliadwriaeth llifogydd mewn grym yn y gogledd, ac eira’n debygol ar dir uwch yn Eryri.
Daw hyn wrth i gyfuniad o law trwm a thymheredd isel arwain at ragolygon o dywydd hynod ansefydlog ledled gwledydd Prydain am weddill y penwythnos.
Mae’r ardaloedd lle mae’r rhybuddion mewn grym yn cynnwys dalgylchoedd afonydd Conwy, Glaslyn a Dwyryd, Mawddach ac Wnion, Dyfi, Efyrnwy a Hafren Uchaf.
Yn y dalgylchoedd hyn, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhybuddio am lefelau uwch na’r arferol o ddŵr yn yr afonydd a pheryglon o rai llifogydd lleol o ganlyniad i ddŵr wyneb.
Mae rhybuddion melyn tebyg mewn 11 o ardaloedd yn Lloegr hefyd.
Mae gogledd Cymru, ynghyd â gorllewin yr Alban, Gogledd Iwerddon a gogledd-orllewin Lloegr, yn wynebu amodau rhewllyd yn ogystal.
Meddai llefarydd ar ran y Swyddfa Dywydd:
“Er nad ydym wedi cyhoeddi dim rhybuddion swyddogol am rew ar hyn o bryd, ein neges gyffredinol yw bod perygl i unrhyw arwynebedd gwlyb arwain at leiniau llithrig yma ac acw.
“Mae hyn yn bennaf o ganlyniad i gawodydd a fydd yn bwydo i mewn o’r gorllewin.”
Mae disgwyl i’r glaw hwn droi’n eira mewn rhannau o Eryri, ucheldir yr Alban ac ardal mynyddoedd y Pennines yng ngogledd Lloegr.
Er y bydd y rhan fwyaf o’r risg o rew yn lleihau yfory, a’r cawodydd yn debygol o ysgafnau, mae rhagolygon am ragor o law ledled y rhan fwyaf o Brydain ddydd Llun.