Mae teulu dyn fu farw ar ôl bod yn nalfa’r heddlu union flwyddyn yn ôl yn galw am gyhoeddi lluniau camerâu’r heddlu.

Cafwyd hyd i Mohamud Mohammed Hassan, 24, yn farw ar ôl bod yn y ddalfa wedi i’r heddlu ei arestio yn ei fflat yng Nghaerdydd.

Cafodd ei gludo i’r ddalfa am oddeutu 10 o’r gloch y nos, gan fynd adre’r bore canlynol heb ei gyhuddo o dorri heddwch, ond bu farw’n ddiweddarach y diwrnod hwnnw.

Mae ei deulu’n dweud bod y darpar dad wedi cyrraedd ei gartref yn llawn cleisiau ar ôl i’r heddlu ymosod arno yn y ddalfa.

Doedd archwiliad post-mortem ddim wedi gallu dod i gasgliad ynghylch ei farwolaeth, a bydd cwest i’w farwolaeth yn cael ei gynnal ym Mhontypridd ym mis Mai eleni.

Mae Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu wrthi’n cynnal ymchwiliad, ac mae chwech o blismyn – pedwar swyddog a dau sarjant y ddalfa – wedi derbyn hysbysiadau o gamymddwyn.

‘Gonestrwydd ac atebion’

Union flwyddyn ers ei farwolaeth, mae ei deulu’n galw am “onestrwydd ac atebion” ynghylch ei farwolaeth.

Maen nhw’n cyhuddo’r heddlu a Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu o “gelu, atal, rhwystro, oedi a dadlau” wrth iddyn nhw geisio atebion.

Maen nhw’n gofyn iddyn nhw gyhoeddi lluniau’r heddlu o’r ddalfa ar y noson, ond mae’r Swyddfa Annibynnol yn gwrthod gwneud hynny rhag ofn y bydd angen y lluniau ar gyfer tystiolaeth fel rhan o ymchwiliad troseddol neu gamymddwyn, neu ar gyfer y cwest.

“Pe bai’r deunydd o eiliadau olaf Mohamud wedi cael eu cyhoeddi i ni, yna fe fydden ni wedi osgoi’r boen arteithiol o araf o ddyfalu’n gyson, ddydd ar ôl dydd, ynghylch beth yn union ddigwyddodd iddo’r noson ofnadwy honno,” meddai ei deulu mewn datganiad.

“Rydym yn credu y dylai fod gan deuluoedd pawb sy’n marw o dan amgylchiadau amheus yn nalfa’r heddlu yr hawl awtomatig fel rhan o’r gyfraith i fynediad ar unwaith i ddeunydd camerâu corff yr heddlu yn dangos yn union beth ddigwyddodd yn ystod eu heiliadau olaf ar y ddaear yma.

“I’r gwrthwyneb llwyr, rydym yn gweld yn yr Unol Daleithiau, yn dilyn marwolaeth yn nalfa’r heddlu, fideos o gamerâu corff yr heddlu’n cael eu cyhoeddi ar gais teuluoedd yn syth ar ôl y fath ddigwyddiadau.

“Flwyddyn ers marwolaeth ddisymwth ac amheus aelod annwyl o’n teulu, rydym yn dal mewn sioc ynghylch y driniaeth gawson ni gan Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu drwy gydol y flwyddyn ddiwethaf.”

Maen nhw’n mynnu mai oherwydd eu dyfalbarhad nhw y cafwyd yr ymchwilaid i ymddygiad chwech o blismyn.

Protestiadau

Yn dilyn marwolaeth Mohamud Mohammed Hassan, cafodd protestiadau a gwylnos eu cynnal ger gorsaf heddlu Bae Caerdydd.

Mae’r teulu wedi cael cefnogaeth Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol Cyngres TUC Cymru, sy’n galw am “sicrhau bod yr ymchwiliad yn destun craff cyfreithiol annibynnol, wedi’i gefnogi gan dystion arbenigol annibynnol”.

Mae grwpiau hawliau dynol yn dweud bod y digwyddiad yn “sgandal” fod yr heddlu a’r Swyddfa Annibynnol wedi cael mynediad di-ben-draw at y deunydd fideo ond nad yw’r deunydd hwnnw’n gyhoeddus o hyd.

Maen nhw’n galw ar y cyhoedd i’w cefnogi nhw i sicrhau bod y deunydd yn dod yn gyhoeddus.