Mae’r Belfast Telegraph yn adrodd bod arwyddion ffordd dwyieithog yn ne sir Down yng Ngogledd Iwerddon wedi cael eu malu dros gyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd.

Mae’r sawl sy’n gyfrifol wedi bod yn defnyddio peiriant torri metel i ddymchwel yr arwyddion sy’n croesawu ymwelwyr i Newry, Mourne a Down yn Saesneg a Gwyddeleg.

Cafodd arwydd yn Newtownhamilton ei ddymchwel cyn y Nadolig yn y trydydd ymosodiad o’i fath o fewn deufis, gyda pheiriant digon tebyg yn cael ei ddefnyddio ar arwydd yn Ballyward.

Mae rhai arwyddion hefyd wedi cael eu paentio a’u dinistrio â sment yn ardal y Mournes, gan ddinistrio chwe arwydd ffordd ac un arall mewn clwb campau Gwyddelig y GAA.

Mae Sinn Fein yn cyhuddo’r rhai sy’n gyfrifol o “gasineb” tuag at yr iaith Wyddeleg, ac maen nhw’n dweud eu bod nhw am fynd â’r mater at yr heddlu.

Mae ymosodiadau ar arwyddion ffordd yn gyffredin iawn ers 2016.

Fe fu 46 o ymosodiadau yn yr ardal dan sylw ers 2019, pan gafodd y ffigurau diweddaraf eu cyhoeddi.

Mae Leanne McEvoy, cynghorydd Sinn Fein yn galw am “sicrhau bod arwyddion ffordd dwyieithog yn cael eu parchu a’u gwarchod”, gan fynnu bod “parch yn rhan greiddiol o’n heddwch ar y cyd”.