Mae Mark Drakeford yn dweud bod y cyfyngiadau Covid-19 gwahanol yng Nghymru a Lloegr yn ei gwneud hi’n “fwy anodd” cyfleu’r neges yn glir i’r cyhoedd.
Daw sylwadau prif weinidog Cymru wrth iddo siarad ar y rhaglen Trevor Phillips on Sunday ar Sky heddiw (dydd Sul, Ionawr 9).
Mae’n dweud ei fod e “wedi cytuno â’r prif weinidog [Boris Johnson] droeon ei bod hi’n well cael un neges glir ar draws y Deyrnas Unedig sy’n ein galluogi ni i gyfleu difrifoldeb y sefyllfa a’r mesurau rydyn ni’n gofyn i drigolion unigol eu dilyn yn eu bywydau eu hunain”.
“Pan fo gennym ni negeseuon gwahanol ar draws ein ffin, mae hynny’n ei gwneud hi’n fwy anodd i ni,” meddai.
“Rydyn ni wedi wynebu hyn yn y gorffennol ac rydyn ni’n parhau i wneud yr hyn rydyn ni’n credu yw’r peth cywir i warchod bywydau a bywoliaethau yma yng Nghymru.”
Cymharu’n “gamarweiniol”
Serch hynny, mae’n dweud bod cymharu’r sefyllfa o ran cyfraddau yng Nghymru a Lloegr “yn gamarweiniol”.
“Mae yna rannau o Gymru sy’n is o lawer na rhannau eraill o Gymru, a rhannau o Gymru sy’n llawer is na’r cadarnleoedd yn Lloegr,” meddai.
“Dydy cymharu Cymru gyfan a Lloegr gyfan, yn syml iawn, ddim yn mynd at wraidd y mater.
“Rydyn ni’n ceisio sicrhau ein bod ni’n gwarchod Cymru rhag dyfodiad yr amrywiolyn Omicron, sydd wedi symud o’r dwyrain i’r gorllewin gan ddod i mewn i Gymru yn hwyrach na rhannau o Loegr.
“Mae ein cyfraddau’n dal yn is na chadarnleoedd Seisnig, a hoffem wneud ein gorau glas i gynnal hynny.”
Amddiffyn sylwadau blaenorol
Yn y cyfamser, mae Mark Drakeford wedi amddiffyn ei sylwadau mai Llywodraeth y Deyrnas Unedig, ac nid Cymru, sy’n arwain y ffordd wrth gyflwyno rhagor o gyfyngiadau.
“Maen nhw’n gofyn i fi dro ar ôl tro pam nad yw Cymru’n gwneud yr un pethau â Lloegr,” meddai.
“Fy ateb oedd nodi, yn y ddadl hon, nad Cymru oedd yn arwain y ffordd.
“Mae Cymru’n dilyn yr un trywydd o ran rhoi camau gwarchod yn eu lle sy’n cael eu dilyn gan yr Alban, Gogledd Iwerddon, ac nid dim ond llywodraethau datganoledig yn y Deyrnas Unedig, ond llywodraethau ledled Ewrop a’r byd.
“Mae’r cwestiynau ynghylch pam fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi penderfynu peidio â dilyn y trywydd hwnnw yn gwestiynau iddyn nhw eu hateb, nid fi.
“Dw i ddim yn meddwl eu bod nhw wedi gwneud yr hyn y byddai’r wyddoniaeth wedi dweud wrthyn nhw y dylen nhw fod yn ei wneud.
“Ond penderfyniadau iddyn nhw eu hateb yw’r rheiny – dw i’n atebol am y penderfyniadau rydyn ni’n eu gwneud yma yng Nghymru.”
Cyfyngiadau “am gyfnod mor fyr â phosib”
Wrth drafod y cyfyngiadau presennol yng Nghymru, dywed ei fod e eisiau i’r cyfyngiadau fod yn eu lle “am gyfnod mor fyr â phosib”.
“Mae yna rywfaint o newyddion da o ran y ffaith fod y model sydd gennym yn dangos cynnydd serth iawn mewn achosion o Omicron,” meddai.
“Dydyn ni ddim ar frig y don honno eto, ond unwaith rydyn ni’n cyrraedd y brig, mae’r model yn dangos gostyngiad eithaf cyflym o’r brig hwnnw hefyd.
“Unwaith rydyn ni mewn sefyllfa i weld heibio’r brig a’r sefyllfa’n gwella, wrth gwrs y byddwn ni eisiau dychwelyd i’r lefel llawer is o warchodaeth oedd gennym ar waith rai wythnosau yn ôl yn unig.
“Rydym yn obeithiol y bydd y lefel o warchodaeth sydd gennym yn ei lle ar hyn o bryd yn ddigonol i ymateb i effaith Omicron i helpu ein Gwasanaeth Iechyd i ymdrin â’r pwysau syfrdanol y mae’n gorfod ymdrin â hi bob dydd.”