Fe fydd gŵyl Gymreig i ddathlu diwylliant poblogaidd yn cael ei chynnal yn Lloegr y penwythnos hwn.

Confensiwn yw Comic Con Cymru sy’n “dathlu popeth am ddiwylliant pop” gan roi cyfle i bobol gyfarfod ag artistiaid llyfrau comig, a sêr ffilm a theledu.

Fel rhan o’r digwyddiad, mae cyfle i ymwelwyr gymryd rhan mewn sesiynau holi ac ateb, cael tynnu eu llun gyda’u harwyr a chael eu llofnodion.

Bydd stondinau’n gwerthu cofanrhegion yn dathlu rhai o ffilmiau mawr y byd ffantasi a ffug-wyddoniaeth.

Er mai Comic Con Cymru yw ei henw, cafodd yr ŵyl ei symud o’i chartref yn Wrecsam i Telford yn Swydd Amwythig rai blynyddoedd yn ôl, a hynny ar ôl i’r digwyddiad gyfrannu tua £1 miliwn at yr economi lleol.

“Heb os, mae Comic Con yn mynd i Telford yn golled i galendr digwyddiadau’r ardal, ac rydym yn cydnabod eu llwyddiant a’r effaith y maent yn ei chael ar y diwydiant twristiaeth yma yn Wrecsam,” meddai’r Cynghorydd Terry Evans adeg symud y digwyddiad o Gymru.

“Rydym yn fwy na pharod i ymgysylltu â’r sefydliad i sicrhau y gellir dod o hyd i ateb ar gyfer digwyddiadau yn y dyfodol, ac er lles yr economi dwristiaeth leol.

“Byddem yn hapus i weithio gyda nhw ar ganfod atebion posibl neu safleoedd eraill ar gyfer y dyfodol os ydyn nhw’n rhagweld digwyddiadau yn yr ardal yn y dyfodol.”

Ymhlith y sêr sy’n bresennol eleni mae Julian Lewis Jones (Justice League), John Rhys-Davies (Lord of the Rings), John Barrowman (Torchwood), Bille Piper (Doctor Who), Mark Williams (Harry Potter), Will Mellor (Two Pints of Lager), Emmett J. Scanlan (Krypton), Danny John-Jules (Red Dwarf), yn ogystal â thri o ddoctoriaid Doctor Who – Sylvester McCoy, Peter Davison a Colin Baker.

Dros y blynyddoedd, mae’r digwyddiad wedi denu miloedd o bobol, sy’n mynd i’r confensiwn wedi’u gwisgo fel eu hoff gymeriadau comic.

Diwylliant geek “yn tyfu” yng Nghymru

Comic Con yn dod i Gaerdydd dros y penwythnos
Neges ar wefan yn dweud bod yr wyl yn symud i Telford

Cyngor Wrecsam “wedi cynnig cefnogaeth” i Comic Con Cymru

Gŵyl Gymreig sy’n denu 15,000 yn symud i Loegr
Neges ar wefan yn dweud bod yr wyl yn symud i Telford

Gŵyl fawr Gymreig … yn Lloegr

Cynghorydd yn Wrecsam yn cyhuddo Llywodraeth Cymru a’r yngor o ddiffyg cefnogaeth