Does dim “arweiniad clir” o ran mynd i’r afael â hiliaeth yn y Deyrnas Unedig, yn ôl awdur adroddiad ynghylch amlddiwylliannedd.
Fe fu Bhikhu Parekh, gwleidydd Llafur, yn flaenllaw yn y ddadl ynghylch amlddiwylliannedd ers troad y ganrif, ac mae’n dweud bod “hiliaeth ffiaidd” fel yr hyn brofodd y cricedwr Azeem Rafiq yn ganlyniad i un llywodraeth ar ôl y llall yn ymwrthod ag amlddiwylliannedd.
Cafodd adroddiad yr Arglwydd Parekh ei gyhoeddi yn 2000, tra ei fod e’n gadeirydd Comisiwn Dyfodol Prydain Aml-Ethnig, ac mae’n sail i lawer o drafodaeth am amlddiwylliannedd yn y Deyrnas Unedig ers blynyddoedd.
Yn ôl y Blaid Lafur, mae ystadegau’r Swyddfa Gartref yn dangos bod gostyngiad o 12.5% yn nifer y troseddau casineb a gafodd eu hadrodd gan Fwslimiaid rhwng 2019-20 (3,089) a 2020-21 (2,703).
Yn 2019-20, roedd troseddau yn erbyn Mwslimiaid yn cyfrif am 50% o’r holl droseddau casineb crefyddol a gafodd eu cofnodi, o’i gymharu â 45% y flwyddyn gynt.
‘Gweithredu difrifol’
Mae’r Blaid Lafur yn galw am weithredu “difrifol” gan Lywodraeth Geidwadol Prydain er mwyn mynd i’r afael ag Islamoffobia, gyda bron i hanner y troseddau casineb yn y Deyrnas Unedig y llynedd yn targedu Mwslimiaid.
Mae Anneliese Dodds, cadeirydd y Blaid Lafur, yn galw ar Oliver Dowden, cadeirydd y Blaid Geidwadol, i fynd i’r afael â hiliaeth o fewn ei blaid ei hun a’r gymdeithas ehangach.
Mae hi wedi cyd-ysgrifennu’r llythyr gydag Afzal Khan, aelod seneddol ym Manceinion a chadeirydd Rhwydwaith Mwslimiaid Llafur.
Maen nhw’n rhybuddio nad yw’r sefyllfa’n gwella o dan arweiniad y Blaid Geidwadol, yn enwedig am eu bod nhw’n gwrthod defnyddio’r gair Islamoffobia, ac yn cyfeirio at y broblem gan ddefnyddio geiriau llai difrifol.
‘Hiliaeth anweddus’
Yn ôl yr Arglwydd Parekh, mewn cyfweliad â’r Guardian, “yr hyn rydyn ni’n dyst iddi yw’r ffurf fwyaf anweddus o hiliaeth y gallech chi ei dychmygu”.
“Mae Lloegr wedi newid cryn dipyn o ganlyniad i bresenoldeb Asiaidd a du,” meddai.
“Edrychwch ar gerddoriaeth, drama, y theatr, siopau cornel yn agor yn hwyr, gwerthoedd teuluol, mae’r holl bethau hyn wedi newid diwylliant Prydain.
“Yn yr un modd, mae Asiaid wedi newid o ganlyniad i ddiwylliant Prydeinig.
“Mae’r rhai nad ydyn nhw eisiau ei dderbyn yn troi at y math hwn o hiliaeth afiach.”
Er ei fod yn cydnabod peth gwelliant dros y blynyddoedd, mae’n dadlau o hyd nad oes “arweiniad clir wedi’i roi ar hiliaeth”.
“Mae angen polisi clir arnoch chi o ran hyrwyddo cydraddoldeb, brwydro gwahaniaethu ac anfanteision,” meddai.
“Dw i ddim yn gweld y fath bolisi.”
Islamoffobia a’r Ceidwadwyr
Yn ôl adolygiad gan yr Athro Swaran Singh yn gynharach eleni, “mae ymdeimlad gwrth-Fwslimaidd yn dal yn broblem” o fewn y Blaid Geidwadol.
Ond yn dilyn ymchwiliad, doedd dim tystiolaeth o blaid sy’n “gwahniaethu’n systematig yn erbyn unrhyw grwpiau penodol”.
Yn ôl llefarydd ar ran y Blaid Geidwadol, maen nhw’n “gweithio ar gyflwyno’r cynllun gweithredu a gafodd ei amlinellu gan yr Athro Swaran Singh”.
Mae’n dweud y bydd adroddiad cynnydd chwe mis yn cael ei gyhoeddi.