Wrth i nifer yr achosion o Covid-19 gynyddu mewn sawl gwlad yn Ewrop, mae hi bellach yn frwydr mewn rhai gwledydd rhwng y rhai sydd wedi’u brechu a’r rhai sydd heb.

Mae sawl un o wledydd Ewrop wedi gweld nifer yr achosion yn cynyddu i’w lefelau uchaf erioed yn ddiweddar, ac mae mesurau megis brechu gorfodol yn cael eu hystyried.

Mewn gwledydd eraill, mae mesurau’n cael eu cyflwyno i gyfyngu ar ryddid y rhai sydd heb eu brechu yn y gobaith o’u hannog i gael eu brechu.

Awstria

O Chwefror 1, bydd hi’n orfodol yn Awstria i bobol gael eu brechu os ydyn nhw am gael yr un rhyddid â’r rhai sydd eisoes wedi’u brechu.

Yr wythnos hon, dywedodd y Canghellor Alexander Schallenberg ei fod e wedi gobeithio “darbwyllo” pobol i gael “brechlyn yn wirfoddol”.

Ond mae’n cydnabod erbyn hyn mai cyflwyno mesurau gorfodol yw’r “unig ffordd o dorri allan o’r cylch dieflig hwn o donnau o’r feirws a thrafodaethau ynghylch cyfnodau clo am byth”.

Gwledydd eraill am ddilyn?

  • Awstria

Awstria yw’r unig wlad yn Ewrop ar hyn o bryd sydd wedi cyflwyno brechu gorfodol.

Ond mae sawl llywodraeth yn dechrau cymryd camau mwy pendant.

  • Slofacia

O ddydd Llun (Tachwedd 22), bydd gwaharddiad ar bobol sydd heb eu brechu yn Slofacia rhag mynd i siopau a chanolfannau siopa oni bai eu bod nhw’n prynu nwyddau hanfodol.

Fydd dim hawl ganddyn nhw fynd i unrhyw ddigwyddiad cyhoeddiad, a bydd gofyn iddyn nhw gael dau brawf bob wythnos i fynd i’r gwaith.

Dim ond 45.3% o’r boblogaeth o 5.5m sydd wedi cael eu brechu’n llawn, a chafodd 8,342 o achosion eu cofnodi ddydd Mawrth (Tachwedd 15).

  • Yr Almaen

Mae’r Almaen hefyd yn ystyried cyflwyno brechu gorfodol ar gyfer gweithwyr iechyd.

Mae 67.5% o’r boblogaeth bellach wedi cael eu brechu’n llawn.

  • Groeg

Ddydd Iau (Tachwedd 18), cyhoeddodd prif weinidog Groeg nifer o gyfyngiadau newydd.

Fydd dim hawl gan y rhai sydd heb eu brechu fynd i fariau, bwytai, sinemâu, theatrau, amgueddfeydd na champfeydd – hyd yn oed os ydyn nhw wedi cael prawf negyddol, meddai Kyriakos Mitsotakis.

Ymateb chwyrn

Mae’r camau eisoes wedi cythruddo rhai o fewn yr Undeb Ewropeaidd, sy’n dadlau nad yw’r camau’n deg.

Yn ôl Clare Daly, sy’n deddfu yn Senedd Ewrop, mae gwledydd yn sathru ar hawliau pobol.

Mae’n dweud bod “gwladwriaethau sy’n aelodau’n cau pobol allan o’u gallu i fynd i’r gwaith”, gan ychwanegu bod y sefyllfa yn Awstria’n “frawychus”.

Mae hi’n dweud bod yna ymateb chwyrn gan bobol yn Iwerddon hefyd, lle mae 75.9% o’r boblogaeth wedi cael eu brechu’n llawn.

“Mae hi bron fel pe bai rhyw fath o gasineb yn erbyn y rhai sydd heb eu brechu,” meddai.

Hollti barn

Er bod hanes yn dangos bod brechlynnau a brechu gorfodol yn helpu i arafu ymlediad heintiau, mae protestiadau’n cael eu cynnal ar hyd a lled Ewrop.

Daeth oddeutu 10,000 o bobol ynghyd yn ninas Prague, prifddinas y Weriniaeth Tsiec, yr wythnos ddiwethaf i brotestio tros “ryddid” i’r rhai sydd heb eu brechu.

Ond yn ôl yr Athro Paul De Grauwe o Ysgol Economeg Llundain, “mae angen i’r rhyddid i beidio cael brechlyn gael ei gyfyngu er mwyn sicrhau rhyddid eraill i fwynhau iechyd da”.

Ond mae’r egwyddor yn troi pobol yn erbyn ei gilydd ac yn hollti teuluoedd ledled Ewrop, yn ôl Birgitte Schoenmakers o Brifysgol Leuven yng Ngwlad Belg.

“Mae hi wedi troi’n frwydr rhwng y bobol,” meddai, gan ychwanegu bod nifer o bobol yn lledaenu gwybodaeth gamarweiniol a damcaniaethau twyllodrus.

Mae hi’n dweud bod amrywiolion, yn enwedig amrywiolyn Delta, yn dechrau gwneud y cysyniad o frechu gorfodol yn fwy apelgar i lywodraethau.

“Mae gwneud tro pedol ar hyn yn eithriadol o anodd,” meddai.