Mae aelodau undeb GMB sy’n gweithio i gwmni Panasonic yng Nghaerdydd wedi cyhoeddi cyfres o streiciau.
Daw hyn yn dilyn anghydfod ynghylch cyflogau.
Bydd staff yn cynnal streic ar Dachwedd 22, Tachwedd 29 a Rhagfyr 6.
Mae disgwyl i ragor o ddyddiadau gael eu cyhoeddi’n fuan.
Ddydd Llun (Tachwedd 15), daeth gweithwyr ynghyd ar y safle yng Nghaerdydd i brotestio ar ôl i’r cwmni dynnu cynnig cyflog yn ôl a thynnu’n ôl o drafodaethau, gan wrthod trafod trwy law ACAS.
Mae’n golygu bod cyflogau’r staff wedi’u rhewi am yr ail flwyddyn yn olynol.
Mae’r aelodau seneddol Jo Stevens ac Anna McMorrin, a Julie Morgan, Aelod Llafur o’r Senedd, yn cefnogi’r gweithwyr.
Brwydro hyd nes bod codiad cyflog
“Dydy’r mater hwn ddim yn mynd i fynd i ffwrdd,” meddai Nicola Savage, trefnydd rhanbarthol undeb GMB.
“Mae ein haelodau’n haeddu codiad cyflog go iawn, a byddwn yn brwydro hyd nes ein bod ni’n cael un iddyn nhw.
“Rydym eisiau diolch i’r gwleidyddion a’r cyhoedd sydd wedi bod mor gefnogol hyd yn hyn, a gofyn iddyn nhw ein cefnogi ni unwaith eto ar y cyfryngau cymdeithasol yn yr wythnosau sydd i ddod.
“Gall pawb weld pa mor anghyfiawn yw hyn.
“Mae’n bryd i Panasonic ddeall hynny a dod yn ôl at y bwrdd.”