Mae tystiolaeth gan lygad-dystion ynghylch Gwrthryfel Casnewydd wedi dod i’r fei ar ôl bron i 200 mlynedd.

Yn 1839, gorymdeithiodd 4,000 o Siartwyr i fynnu’r hawl i ddemocratiaeth a phleidlais gyfrinachol.

Saethodd milwyr at y dorf, gan ladd 22 o brotestwyr ac anafu dwsinau yn rhagor, a chafodd arweinwyr y gwrthryfel eu cyhuddo o frad a’u dedfrydu i farwolaeth, cyn i’r ddedfryd gael ei lleihau i gael eu halltudio.

Cafodd sgriptiau o dystiolaeth llygad-dystion eu defnyddio yn ystod achosion llys, ac maen nhw wedi cael eu canfod gan Archifau Cymru.

Tan yn ddiweddar, roedden nhw wedi cael eu cadw mewn llyfrgell yng Nghasnewydd ac yn Archifau Gwent, oedd wedi mynd ati i greu’r sgriptiau fel rhan o brosiect ar y cyd â’r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth a Chronfa Dreftadaeth y Loteri.

Cefndir a chynnwys y dogfennau

Mae’r dogfennau’n manylu ar y frwydr a gafodd ei chynnal ar Dachwedd 4, 1839, pan orymdeithiodd miloedd o ddynion o gymoedd Sir Fynwy i westy’r Westgate yng Nghasnewydd.

Roedden nhw’n ceisio rhyddhau pump o’u haelodau oedd yn cael eu cadw yn y ddalfa yn y gwesty.

Mae’r cofnodion yn dangos mai John Frost, Zephaniah Williams a William Jones oedd arweinwyr y gwrthryfel.

Pan gyrhaeddodd y criw y gwesty, roedd 500 o gwnstabliaid arbennig a milwyr yno.

“Roeddwn i’n dyst i effaith yr ymosodiad ar y Westgate Inn,” meddai Thomas Hawkins, gwneuthurwr tunplat lleol.

“Fe welais i naw corff yn gorwedd yn y stablau o eiddo a nesaf at y Westgate Inn.

“Fe welais i’r maer ar wely yn y Westgate Inn, cafodd ei glwyfo a phan welais i, roedd ei ddillad wedi’u gorchuddio gan waed.”

Dywedodd Alfred Tibbs, clerc o Gasnewydd, ei fod yntau “wedi gweld nifer fawr o ddynion – yn fy nhyb i, ryw 5,000 o ddynion yn dod i lawr Stow Hill”.

“Y cyfan welais i oedd dynion arfog, rhai â phicellau, rhai â dryllau ac arfau eraill,” meddai.

“Fe welais i un person yn cwympo o ganlyniad i danio ergyd ato drwy’r ffenest.

“At ei gilydd, dw i’n meddwl i mi weld naw o gyrff meirw yn y Westgate a thu allan.

“Fe welais i danio cyffredinol yn digwydd ar ran o’r criw ar y tu allan cyn i unrhyw danio ddigwydd ar ran y fyddin ar y tu fewn.”

Cadw’r dogfennau

Mae’r dogfennau wedi’u cadw ar-lein yn y casgliad Stori Pobl Cymru, ac maen nhw’n cynnig golwg ar gymunedau’r cymoedd ac ymgyrch y Siartwyr am ddiwygio democrataidd.

Maen nhw wedi’u rhannu fel rhan o wythnos archifau sydd wedi’i threfnu gan Gymdeithas Archifau a Chofnodion y Deyrnas Unedig.

“Eleni, byddwn ni’n tynnu sylw at y dystiolaeth eang hon gan lygad-dystion o Wrthryfel y Siartwyr yn 1839,” meddai Rhiannon Phillips o Archifau Gwent.

“Mae cael y cyfle i weld y rhain yn agos yn gyfle i fynd yn agos at stori ein cenedl.

“Mae eitemau eraill sy’n cael sylw eleni yn cynnwys Arolwg Barwn y Fenni o 1821 a neges mewn potel y daethpwyd o hyd iddi yn seiliau Cofeb Ryfel Penallt.”