Mae dyn o Balesteina wedi’i saethu’n farw gan yr heddlu yn Israel ar ôl iddo ladd un person ac anafu sawl person arall ger mynedfa safle sanctaidd yn ninas Jerwsalem.
Yn ôl yr heddlu, digwyddodd y trais ger mynedfa sy’n cael ei adnabod gan Iddewon fel Mynydd y Deml ac i Fwslimiaid fel y Noddfa Nobl.
Fe fu trais ger y safle sawl gwaith, gan gynnwys mis Mai eleni.
Y tro hwn, cafodd un person anafiadau difrifol, cafodd dau berson fân anafiadau, a chafodd dau arall driniaeth am anafiadau hefyd.
Bu farw un o’r bobol yn ysbyty Hadassah yn ddiweddarach, a bu farw’r ymosodwr yn y fan a’r lle.
Mae’r heddlu wedi cyhoeddi llunio o ddryll a chyllell y cafwyd hyd iddyn nhw ar safle’r digwyddiad.
Yn ôl Hamas, roedd y weithred yn un “arwrol”.
Digwyddiadau eraill
Dyma’r ail ddigwyddiad yn Hen Ddinas Jerwsalem yr wythnos hon.
Ddydd Mercher, cafodd llanc 16 oed ei saethu’n farw ar ôl trywanu dau blismon ger ffin Israel.
Cafodd dau blismon eu cludo i’r ysbyty, a bu farw’r llanc yn y fan a’r lle.
Mae Palestiniaid wedi ymosod ar ddwsinau o dargedau, gan drywanu a saethu pobol a gyrru i mewn i geir pobol wrth dargedu pobol gyffredin a swyddogion diogelwch Israel dros y blynyddoedd diwethaf.
Mae Palesteina yn mynnu bod nifer o’r digwyddiadau’n ddamweiniau, ac yn rhoi’r bai ar Israel am ddefnyddio gormod o rym yn eu herbyn.
Hanes
Fe wnaeth Israel gipio dwyrain Jerwsalem, gan gynnwys yr Hen Ddinas a’i safleoedd Cristnogol, Mwslimaidd ac Iddewig, yn ogystal â’r Lan Orllewinol a Llain Gaza, yn ystod rhyfel y Dwyrain Canol yn 1967.
Yn ddiweddarach, fe wnaethon nhw gyfeddiannu dwyrain Jerwsalem ond doedd y rhan fwyaf o’r gymuned ryngwladol ddim yn fodlon cydnabod y digwyddiad.
Mae Palestiniaid yn awyddus i gipio’r Lan Orllewinol a Llain Gaza fel rhan o wlad annibynnol yn y dyfodol, a dwyrain Jerwsalem yn brifddinas arni.